Gwneud Oedrannau Pensiwn Menywod yn Gyfartal

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 21 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 2:35, 21 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n deall y cyfyngiadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn eu nodi, ond yn y cyfarfod llawn ar 20 Mawrth cytunwyd y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i gefnogi ymgyrchwyr pensiwn y wladwriaeth, sy'n ymwneud ag anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth, llawer ohonyn nhw'n etholwyr i mi ac wedi cysylltu'n uniongyrchol â mi. Cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip hefyd y byddai'r Cwnsler Cyffredinol yn ystyried pa gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd yn gysylltiedig â'r ymgyfreitha yn erbyn yr Adran Gwaith a Phensiynau am y cam-drafod honedig o godi oedran pensiwn y wladwriaeth ar gyfer menywod a anwyd yn y 1950au. Ac mae dyddiad gwrandawiad yr Uchel Lys ar gyfer yr adolygiad barnwrol yn prysur agosáu erbyn hyn, gan ei fod yn cael ei gynnal ddydd Mercher 5 Mehefin a dydd Iau 6 Mehefin. Gwerthfawrogaf yr hyn a ddywed fod pensiynau'n fater a gadwyd yn ôl, ond rydym wedi gwneud ymrwymiad. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad i'r ymgyrchwyr hynny. Felly, a all ef fodloni'r Siambr hon fod Llywodraeth Cymru wedi cymryd y camau a drafodwyd gennym ar 20 Mawrth ac wedi rhoi pwysau arnynt ers hynny?