Gwneud Oedrannau Pensiwn Menywod yn Gyfartal

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 21 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:36, 21 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw, a gwn fod hwn yn fater y bu'n ymgyrchu yn ei erbyn yn ei etholaeth a'i fod mewn cysylltiad agos â'i grŵp menywod 1950au lleol. Mae'n iawn wrth ddweud bod y Dirprwy Weinidog, yn y ddadl ar 20 Mawrth, wedi awgrymu dull gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru. Fel y dywed, mae'r Uchel Lys wedi rhoi caniatâd ar gyfer yr adolygiad barnwrol hwnnw a bydd y gwrandawiad yn cael ei glywed ar y pumed a'r chweched.

Nid yw'r pwerau sydd gan y Cwnsler Cyffredinol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu ymyrryd yn y set benodol hon o amgylchiadau, yn anffodus. Dyna asesiad yr wyf wedi'i wneud wedi hynny, o ystyried y sylwadau a wnaeth y Gweinidog yn y Siambr. Fodd bynnag, yn dilyn hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i bwysleisio ei phryderon ynghylch ymagwedd Llywodraeth y DU, ac mae'n cloi drwy bwyso ar Lywodraeth y DU i gymryd camau i liniaru'r effeithiau negyddol y mae'r menywod yn eu hwynebu heb fod bai arnyn nhw. Hefyd, bod angen mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd yn benodol gan yr Athro Alston a Phwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Gwahaniaethu yn Erbyn Menywod, ac mae'r llythyr hwnnw wedi'i anfon i ddilyn yr ymrwymiadau a wnaed gan y Dirprwy Weinidog yn y Siambr.