Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 21 Mai 2019.
Wel, rwy'n hapus i dawelu meddwl yr Aelod. Mae hon yn drafodaeth fyw yn y Llywodraeth. Fel y soniais, mae'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn adran 1 y Ddeddf Cydraddoldeb, ynghyd â gwaith yr adolygiad o gydraddoldeb rhywiol, dan arweiniad Dr Alison Parken, a bodolaeth, yn amlwg, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn darparu'r cyd-destun ar gyfer ystyried y mathau o faterion y credaf ei bod yn ymwybodol, yn sgil ein trafodaethau blaenorol, fy mod innau hefyd yn rhoi pwys mawr arnynt, fel y mae'r Llywodraeth yn gyffredinol.
Un o'r agweddau hollbwysig o adael yr Undeb Ewropeaidd yw colli mynediad i Siarter Hawliau Sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd, sydd wedi dod â manteision mawr i'r DU. Byddwn yn ceisio sicrhau y gallwn wneud popeth o fewn ein gallu i wneud yn siŵr nad yw pobl yng Nghymru yn colli hawliau nad oeddent yn sicr wedi pleidleisio i'w colli yn ystod y refferendwm yn 2016.