Creu Awdurdodaeth Gyfreithiol i Gymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 21 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 2:26, 21 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Ni all neb ohonom wadu datblygiad cyfraith Cymru a rhan gynyddol Llywodraeth Cymru yn y gwaith o ddarparu cyfiawnder yng Nghymru. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith bod y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn adolygu'r system ac yn ystyried creu gweledigaeth hirdymor. Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr, fodd bynnag, wedi cyflwyno ei argymhelliad i'r Comisiwn yn ddiweddar. Yn hyn o beth, maen nhw wedi nodi y gallai gwahanu Cymru'n llwyr oddi wrth yr awdurdodaeth sengl bresennol wanhau awdurdodaeth Cymru a Lloegr a chyfyngu ar allu cyfreithwyr i gynnal y lefel bresennol o weithgarwch gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru. Yn wir, eglurir

'y gallai Cymru gael ei gweld fel lle anodd i weithredu busnes.'

Eu geiriau nhw, nid fy rhai i yw'r rhain. Gyda buddiannau dyfodol tua 450 o gwmnïau cyfreithiol a 4,000 o fyfyrwyr y gyfraith yma—[Torri ar draws.] A wnewch chi roi sicrwydd inni fod ateb awdurdodaethol yn cael ei archwilio yn ogystal â mynd ar drywydd gwahanu awdurdodaethol llwyr yn unig?