Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 21 Mai 2019.
Mae grŵp rhanddeiliaid wedi'i sefydlu i ystyried y ffordd orau o blethu deddfwriaeth newydd i dapestri cyfreithiol unigryw Cymru ar gyfer diogelu hawliau dynol. Er enghraifft, fel y dengys Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 a'n hymrwymiad i gychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn Neddf Cydraddoldebau 2010, mae'r Llywodraeth hon yn parhau i ddod â hawliau adref.