Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 21 Mai 2019.
Diolch am eich dyfalbarhad. Yn ail ac yn olaf, a gaf i alw am ddatganiad ar ddull Llywodraeth Cymru o weithredu cyfiawnder ar gyfer cyn-filwyr y lluoedd arfog sy'n wynebu erlyniad a'u hymgysylltiad, os o gwbl, â Llywodraeth y DU, ynglŷn â hyn? Y penwythnos hwn, gorymdeithiodd cannoedd o brotestwyr drwy Gaerdydd i gefnogi cyn-filwyr sy'n cael eu herlyn am droseddau hanesyddol yng Ngogledd Iwerddon, gan gyd-fynd â phrotestiadau gan gyn-filwyr ledled y DU. Yn 2014, darganfuwyd bod Llywodraeth Mr Blair wedi gwneud bargen gudd fel rhan o drafodaethau dydd Gwener y Groglith, pan anfonwyd llythyrau at aelodau hysbys o'r IRA a oedd yn ymwneud â therfysgaeth, gan roi sicrwydd iddynt na fyddent yn cael eu herlyn yn y dyfodol. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Penny Mordaunt, gynlluniau ar gyfer deddfwriaeth i roi amddiffyniad cryfach i gyn-filwyr yn Iran ac Affganistan rhag ymchwiliadau mynych i gyhuddiadau hanesyddol. Dywedodd hefyd, er na fyddai hyn yn berthnasol yng Ngogledd Iwerddon, ei bod yn bwriadu dod o hyd i ffordd y gellid eu hamddiffyn mewn modd tebyg—a dof i ben yma—gan ddweud bod ymwneud â thriniaeth cyn-filwyr Gogledd Iwerddon yn flaenoriaeth bersonol iddi. A yw Llywodraeth Cymru wedi cymryd safbwynt ar hyn, ac a fydd yn gwneud hynny, o gofio'r protestiadau yng Nghaerdydd a'r effaith ar lawer o bobl sy'n byw yng Nghymru, a pha ddeialog y mae wedi'i chael, os o gwbl, â Llywodraeth y DU?