Part of the debate – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 21 Mai 2019.
Trefnydd, nos Wener ddiwethaf, fe wnes i fynychu cyfarfod cyhoeddus yng Nghwmllynfell, yng Nghastell-nedd Port Talbot, gydag Aelodau eraill yma, a oedd yn trafod cau syrjeri feddygol y pentref, penderfyniad a fydd yn cael ei wneud yn y pen draw gan fwrdd iechyd bae Abertawe. Nawr, er bod y feddygfa wedi ei lleoli yng Nghwmllynfell, mae'n rhan o bartneriaeth Aman Tawe, sy'n gwasanaethu poblogaeth o siroedd Caerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a Phowys, ac yn cwmpasu tri bwrdd iechyd, sef Hywel Dda, bae Abertawe a Phowys. Mae'n amlwg nad yw pobl yng Nghwmllynfell eisiau colli eu syrjeri leol, gyda llawer yn poeni am y diffyg trafnidiaeth sydd ar gael i gyrraedd lleoliadau eraill fel Ystalyfera a Phontardawe. Nawr, mae yna boblogaeth ddwys yn yr ardal gymharol wledig yma, sef tua 11,000 o bobl o Gwmtwrch, Ystradowen, Cwmllynfell i Wauncaegurwen a Brynaman, sydd filltiroedd i ffwrdd o unrhyw ganolfannau poblogaeth trefol. Er bydd bwrdd iechyd bae Abertawe'n gwneud y penderfyniad terfynol, yr hyn sydd wedi dod i'r amlwg yw bod angen i'r penderfyniad yma gael mewnbwn pob un o'r tri bwrdd iechyd. A fyddai Llywodraeth Cymru felly yn fodlon gwneud datganiad ar y mater yma ac adolygu'r broses o benderfynu ar ddyfodol gwasanaethau iechyd cynradd pan fo'r gwasanaethau hynny yn cael eu darparu ar draws mwy nag un bwrdd iechyd, yn enwedig lle mae'r lleoliad dan sylw, fel yn fan hyn, gyda nifer uchel iawn o drigolion ond yn bell o bob man arall, yn y tri bwrdd iechyd? Diolch.