Part of the debate – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 21 Mai 2019.
Yn yr amseroedd gwleidyddol cecrus hyn, mae cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn rhywbeth sy'n gallu uno bron pob un Aelod Cynulliad. Bydd cyrraedd y targed hwn yn cymryd llawer o ymdrech a phenderfyniad dros nifer o wahanol feysydd, ac mae cyrsiau Cymraeg i oedolion yn elfen hollbwysig. Yn anffodus, nid yw dysgu Cymraeg yn cael ei drin yr un fath â chyrsiau dysgu Saesneg, gan fod cyrsiau Saesneg wedi'u heithrio o TAW, ond nid felly y cyrsiau Cymraeg. Mae hyn yn amlwg yn annheg iawn.
Roeddwn i'n falch o weld bod yr anghyfiawnder hwn yn ennyn sylw a chefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol gan Aelodau Torïaidd a Llafur y Senedd hon, gan gynnwys y Gweinidog. Felly, a allwn ni sefyll ynghyd i lobïo Trysorlys y DU, drwy'r Gweinidog, i gywiro'r anghysondeb hwn fel y gall cyrsiau dysgu Cymraeg gael eu heithrio rhag TAW yn yr un modd a'u cymheiriaid Saesneg?
Rwyf am godi mater canser y coluddyn. Mae ymchwil ddiweddar a gynhaliwyd dros gyfnod o ddegawd wedi darganfod cynnydd sydyn yn y math hwn o ganser ymhlith pobl iau. Rydym i gyd ar feinciau Plaid Cymru yn gwybod yn iawn am effaith ddinistriol y duedd bryderus hon. Mae'r arbenigwyr bellach yn galw am ostwng yr oedran sgrinio i 45. Nid yw Cymru yn sgrinio ar gyfer canser y coluddyn nes bydd pobl yn cyrraedd 60 oed. Gwn fod cynlluniau ar y gweill i sicrhau bod Cymru'n cyd-fynd â'r Alban, lle mae pobl yn cael eu sgrinio pan fyddant yn cyrraedd 50 oed, ond ni fydd hyn yn digwydd tan 2023. Felly, a all y Llywodraeth hon symud y targed hwnnw ymlaen, ac ystyried gostwng yr oedran sgrinio i gydymffurfio â'r cyngor meddygol diweddaraf?