Part of the debate – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 21 Mai 2019.
Trefnydd, ar sawl achlysur, rwyf wedi codi pryderon fy etholwyr yn y Siambr hon ynglŷn â'r camau unioni a'r cymorth y maen nhw'n chwilio amdanynt o ganlyniad i ddeunydd inswleiddio waliau dwbl sy'n ddiffygiol. Mae'r deunydd inswleiddio waliau dwbl hwnnw wedi'i osod o dan grantiau Llywodraeth Cymru yn aml iawn, ac mae wedi'i warantu gan yr Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau Dwbl. Yn aml iawn, mae'r etholwyr hynny wedi cysylltu â'r Asiantaeth ac wedi cael ymatebion sy'n herio'r haeriad bod yr inswleiddio waliau dwbl yn ddiffygiol, a throsglwyddo'r bai i berchennog yr eiddo. Nawr, ni all llawer o'r unigolion hynny fforddio'r camau unioni sydd eu hangen. O ganlyniad, mae hyn yn amlwg yn gwestiwn o beth y mae'r Asiantaeth yn mynd i'w wneud ynglŷn â hyn.
Y tro diwethaf imi godi'r mater, ysgrifennodd y prif weithredwr ataf yn dweud y byddai'n hapus i wrando ar bryderon yr etholwyr, a bydd yn cael ambell lythyr oddi wrthyf i mewn ymateb i hynny. Ond prosiectau Llywodraeth Cymru oedden nhw, ac maen nhw wedi'u gwarantu gan yr Asiantaeth, ac rwy'n siŵr bod Llywodraeth Cymru wedi'u cefnogi. Felly, hoffwn gael datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn y cwestiwn beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud dros yr unigolion hyn, oherwydd yn aml iawn ni ddylai'r unigolion hyn fod yn y sefyllfa o orfod dod i'm gweld i. Dylai'r camau unioni fod wedi'i gwneud gan y gwarantwr tanysgrifennu. Ac os nad y nhw, Llywodraeth Cymru o bosibl, a ariannodd y gwaith gwreiddiol yn y lle cyntaf.
Felly, a gawn ni ddatganiad ar yr hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu unigolion sy'n cael eu hunain yn y sefyllfa hon? Yn y pen draw, maen nhw'n brwydro gyda'r asiantaeth i ddweud beth sydd, mewn gwirionedd, wedi mynd o'i le. Mae'r asiantaeth yn aml yn dweud bod y wal wedi torri ac mai'r cladin sydd ar fai, ac nad y deunydd inswleiddio waliau dwbl sydd ar fai, i ddechrau, pan fo arolwg yn dangos bod hynny'n anghywir, ac mai'r deunydd insiwleiddio waliau dwbl sydd ar fai. Ond, mewn gwirionedd, Llywodraeth Cymru a ariannodd y prosiect yn y lle cyntaf. A gawn ni ddatganiad ar yr hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r unigolion hynny i sicrhau eu bod yn cael y camau unioni, eu bod yn cael eu deunydd insiwleiddio waliau dwbl wedi'i drwsio a'i atgyweirio, ac nad oes raid iddyn nhw ddod o hyd i filoedd o bunnau nad oes ganddyn nhw?