Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 21 Mai 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd.
Yn aml, bydd pobl sy'n mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru yn bobl sydd ymhlith y mwyaf agored i niwed a difreintiedig yn ein cymdeithas. Yn rhy aml o lawer, mae pobl yn cael eu dal yn y system cyfiawnder troseddol oherwydd eu bod nhw wedi cael cam yn gynharach yn eu bywydau, gan ddioddef nifer o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Weithiau, bydd y profiadau hyn yn parhau ymhell i'w bywydau yn oedolion.
Roedd adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru ar ddechrau'r flwyddyn yn tynnu sylw at y ffaith mai Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o garcharu yng ngorllewin Ewrop. Helpodd yr adroddiad ni i weld darlun llawer cliriach o ddedfrydu a chadw yn y ddalfa yng Nghymru, ac mae hyn yn dylanwadu eisoes ar ein gwaith ar hyn o bryd ac i'r dyfodol o ran troseddu. Yng Nghymru, rydym ni mewn sefyllfa ddelfrydol, yn sgil ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, i ganolbwyntio ar yr hyn sydd wrth wraidd troseddu a rhoi blaenoriaeth i atal hynny drwy gydweithio, integreiddio a chynllunio hirdymor.
Mae'r glasbrintiau a'r cynlluniau gweithredu ar gyfer cyfiawnder ieuenctid a throseddau gan fenywod sy'n cael eu cyhoeddi heddiw yn amlinellu ein dull ni o ddarparu gwasanaethau cyfiawnder yng Nghymru. Mae'r dull hwn yn canolbwyntio yn amlwg ar ymyrraeth gynnar ac atal, yn un sy'n canolbwyntio ar y ffordd yr ydym ni'n rhoi cymorth ar gyfer cyfeirio pobl oddi wrth droseddu yn y lle cyntaf, ond hefyd yn un sy'n mabwysiadu ymagwedd sy'n gyfannol ac yn pwysleisio adsefydlu i'r rhai sy'n llithro drwy'r rhwyd honno. Fe hoffwn i ddiolch i'm rhagflaenydd, Alun Davies, am y gwaith a wnaeth ef i ddod â ni i'r pwynt sylweddol hwn o gynnydd.
Fe hoffwn i gydnabod hefyd waith comisiwn Thomas, sydd yn ystyried sut y bydd y system gyfiawnder yng Nghymru yn gweithredu yn y dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen at weld adroddiad Arglwydd Thomas, y dylem ei gael yn ystod yr hydref eleni, a byddwn, wrth gwrs, yn cynnwys y gwaith pwysig hwnnw yn ein gwaith ar y glasbrintiau wrth symud ymlaen.
Er mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y system gyfiawnder yng Nghymru, ceir cyswllt anorfod rhwng darparu gwasanaethau cyfiawnder a gwasanaethau datganoledig—gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, addysg, dysgu a sgiliau, a thai. Mae'r gwasanaethau hyn i gyd â rhan hanfodol bwysig o ran atal troseddu, ond o ran adsefydlu troseddwyr hefyd. Rwy'n croesawu cyhoeddiad yr wythnos diwethaf am ailwladoli'r gwasanaeth prawf. Mae'r Llywodraeth hon yn gwbl gefnogol i ailuno'r gwasanaeth prawf yng Nghymru, a fydd yn digwydd cyn diwedd eleni.
Rydym ni'n cydnabod, wrth gwrs, pa mor bwysig yw gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU i sicrhau dull cydweithredol o ymdrin â throseddu a chyfiawnder. Mae adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig ar y ddarpariaeth o garchardai yng Nghymru yn amserol iawn. Rydym ni'n bwrw ymlaen â'r gwaith o weithredu'r glasbrintiau, gan ystyried y materion sy'n deillio o'r adroddiad sy'n ymwneud â'n cyfrifoldebau ni. Roeddwn i hefyd yn croesawu adolygiad David Hanson o addysg i droseddwyr yng Nghymru, a byddaf yn parhau i weithio'n agos gyda Gwasanaethau Carchardai a Phrawf ei Mawrhydi ar yr argymhellion ac yn ceisio gwneud gwelliannau yn y meysydd hynny.