Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 21 Mai 2019.
Rydym ni'n gweithio ar y cyd â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau gwelliannau mewn nifer o feysydd, er enghraifft drwy ein cynllun ar y cyd ar gyfer iechyd a lles mewn carchardai a'r concordat ar argyfwng iechyd meddwl, a'r glasbrintiau cyfiawnder. Yn ystod y misoedd diwethaf, rwyf wedi cynnal nifer o gyfarfodydd gydag Edward Argar, yr Is-Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, y cyn Weinidog Carchardai, Rory Stewart, a'r Gweinidog Plismona, Nick Hurd. Bydd y cyfarfodydd hyn yn parhau i gael eu cynnal yn rheolaidd wrth inni symud ymlaen i gyfnod cyflawni'r gwaith pwysig hwn.
Yn ystod y misoedd nesaf, bydd swyddogion o blith llawer o adrannau o fewn Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM a'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn parhau i weithio gyda'i gilydd gydag amrywiaeth o randdeiliaid ym meysydd cyfiawnder, iechyd ac addysg. Bydd yr ymgysylltiad parhaus hwn yn gyfle i ddatblygu ein dulliau newydd o ymdrin â chyfiawnder ieuenctid a throseddau menywod ymhellach ac yn edrych ar farn rhanddeiliaid ar ddatblygiadau arfaethedig.
Rwy'n ddiolchgar i Fwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru am ei waith ac am ei gefnogaeth wrth ddatblygu'r glasbrint cyfiawnder ieuenctid, sy'n adeiladu ar themâu allweddol yn adolygiad Charlie Taylor o system cyfiawnder ieuenctid Cymru a Lloegr, ond yn canolbwyntio ar y system a'r gefnogaeth a roddir yng Nghymru.
Er bod nifer y bobl ifanc o Gymru sydd yn y ddalfa wedi gostwng yn sylweddol, mae llawer yn y ddalfa ymhell o'u cartrefi, eu teuluoedd a'u cymunedau. Mae'r glasbrint cyfiawnder ieuenctid yn nodi ymrwymiad i weithredu sut y gall gwasanaethau datganoledig ac annatganoledig gydweithio i wireddu hawliau i blant a datblygu system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru sy'n seiliedig ar egwyddorion sy'n seiliedig ar hawliau.
Mae'r dystiolaeth gynyddol o ran effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod—ACEs—yn elfen allweddol yn null gweithredu Llywodraeth Cymru o weithredu. Mae'n seiliedig ar ymyrraeth gynnar ac atal, sy'n nodwedd allweddol o'r glasbrint cyfiawnder ieuenctid. Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru, drwy hyrwyddo'r grant ymgysylltiad cadarnhaol â phobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu, eisoes yn cynnig cymorth ataliol a dargyfeiriol i bobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu yng Nghymru.
Fel yr amlinellwyd yn y cynllun gweithredu, ein dyhead ni yw datblygu system cyfiawnder ieuenctid sy'n trin plant gyda thegwch a pharch. Ein nod yw helpu i leihau niferoedd y plant sydd yn y system drwy ddargyfeirio ac ataliaeth effeithiol, a thrwy fynd i'r afael â'r gwendidau sy'n arwain yn aml at drosedd.
Mae'r glasbrint troseddau menywod yn mynd i'r afael â mater menywod a'r system cyfiawnder troseddol. Rwy'n cefnogi'r egwyddorion a nodwyd yn adroddiad pwysig Barwnes Jean Corston ar y mater hwn yn fawr iawn. Mae dros 10 mlynedd wedi mynd heibio ers adolygiad Barwnes Corston, ond mae'r egwyddorion sydd ynddo'r un mor berthnasol heddiw ag yr oedden nhw bryd hynny. Mae'n amlwg bod menywod yn cael eu hanfon i'r carchar yn aml am droseddau diannod lefel isel. Mae'r defnydd o ddedfrydau carchar tymor byr i fenywod, a dynion hefyd, nad ydyn nhw wedi cyflawni troseddau difrifol yn gallu cael effaith drychinebus arnyn nhw a'u teuluoedd. Nid yw carcharu am amser byr yn caniatáu adsefydlu yn ei ystyr lawnaf. Yn aml, nid yw'r rhai sy'n cael dedfryd o garchariad byrdymor yno'n ddigon hir i allu cwblhau rhaglenni sydd wedi eu cynllunio i gyflawni adsefydlu.
Mae angen datrysiad brys ar gyfer menywod sy'n troseddu yng Nghymru. Mae tua 250 o fenywod o Gymru mewn carchar yn Lloegr ar hyn o bryd. Mae'r materion sy'n gysylltiedig â bod ymhell o gartref, sy'n wynebu troseddwyr sy'n fenywod o Gymru a'u teuluoedd, yn sylweddol, ac yn bryder gwirioneddol o ran yr effaith ar blant yn benodol, ond o ran adsefydlu'r troseddwr hefyd.
Rwyf wrthi gyda Llywodraeth y DU yn ystyried dewisiadau ar gyfer lleoliad y canolfannau preswyl newydd arfaethedig i droseddwyr benywaidd, a goblygiadau hynny. Rwyf wedi dadlau eisoes o blaid lleoli o leiaf un o'r rhain yng Nghymru, fel y gall y menywod fod mewn amgylchedd sy'n cefnogi eu hanghenion nhw, gan gynnwys adsefydlu a'r gallu i barhau i gysylltu â theulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach. Roeddwn yn falch o weld bod adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig ar ddarpariaeth carchardai yng Nghymru wedi tynnu sylw at bryderon ynghylch y ddarpariaeth ar gyfer grwpiau penodol o bobl fel troseddwyr benywaidd ac wedi gwneud argymhellion penodol ar gyfer sefydlu canolfannau preswyl i fenywod yng Nghymru. Hoffwn i ddiolch i'n partneriaid, yn enwedig Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM am ei waith gyda ni wrth ddatblygu'r glasbrint ar gyfer troseddu gan fenywod.
Mae'r glasbrintiau yr wyf yn eu cyhoeddi heddiw yn nodi ein dyheadau allweddol ar gyfer menywod a phobl ifanc sydd mewn perygl o fynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol, neu sy'n wynebu perygl o hynny, a'r egwyddorion arweiniol yr ydym ni'n bwriadu cyflwyno'r newidiadau hyn yn eu sgil. Ynghyd â'r glasbrintiau, rwy'n cyhoeddi hefyd gynlluniau gweithredu sy'n tynnu sylw'n glir ac yn gryno at y materion a'r argymhellion ar gyfer pob ardal, gan ddangos, yn bwysig iawn, y gwaith yr ydym yn ei wneud eisoes. Gyda'i gilydd, bydd y rhain yn ffurfio sail ar gyfer cynllun gweithredu cadarn yn ystod y Cynulliad hwn a thu hwnt. Dros y misoedd nesaf, bydd pob un o'r argymhellion hyn yn cael eu hystyried ymhellach, gan gynnwys asesiad llawn o effeithiau ac ymarferoldeb y cynigion.