Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 21 Mai 2019.
Mae ein prosiect bellach yn canolbwyntio'n llawn ar y safle a ffefrir yng Nghwm Dulais, sef Onllwyn/Nant Helen, ac mae wedi bod drwy sawl cam peirianyddol yn ystod y misoedd diwethaf i lywio'r prif gynllun sy'n datblygu. Mae'r cynigion presennol, a fydd yn destun ymchwil, astudiaethau asesu effaith amgylcheddol ac ymgynghori pellach, yn cynnwys: oddeutu 7 cilomedr o drac prawf wedi'i drydaneiddio, gan roi uchafswm cyflymder llinell o 110 mya; cyfleuster profi seilwaith ar wahân ac unigryw sy'n cynnwys llwyfan a gorsaf; cyfleuster cynnal a chadw mawr gyda chyfarpar; storfeydd diogel ar gyfer 400 o gerbydau rheilffordd; cyfleuster dadgomisiynu; a chanolfan ymchwil a datblygu ac addysg, a fydd yn cynnwys labordai, gofod swyddfa a chyfleusterau hyfforddi mewn awyrgylch byrlymus ar wahan i'r rhwydwaith gweithredol.
Er y gallai dull gweithredu fesul cam fod yn ddewis doeth maes o law, gyda rhai o'r nifer o elfennau integredig yn cael eu darparu ar amserlen fwy datblygedig nag eraill, byddai'r cyfleuster hwn gwerth oddeutu £100 miliwn yn cyflogi tua 400 o bobl yn ystod y cyfnod adeiladu, a thros 150 o bobl yn barhaol pan fydd yn gwbl weithredol ym mhob agwedd. Mae'n werth nodi, Dirprwy Lywydd, bod prif gyfleuster profion yr Almaen, er iddi gael ei sefydlu 20 mlynedd yn ôl, bellach yn cyflogi 500 o staff parhaol a 100 o beirianwyr achlysurol eraill sy'n gweithio ar brosiectau penodol. Yn gryno, mae'r gallu sbarduno ychwanegol a'r cyfleoedd ar gyfer y dyfodol yn sylweddol.
Rwyf wedi dweud erioed y bydd angen partneriaid cryf yn y sectorau cyhoeddus a phreifat i gyflwyno'r prosiect hwn, ac fe hoffwn i gyfeirio at y ddau ohonyn nhw heddiw. Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod y berthynas waith anffurfiol gref a chefnogol rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol cyfagos Powys a Chastell-nedd Port Talbot wedi'i ffurfioli mewn cytundeb menter ar y cyd. Mae'r diben yn glir: gweithio mewn partneriaeth i ddarparu dyfodol y tu hwnt i waith glo a fyddai'n fodd o adfer y safle yn briodol—gofyniad statudol a oruchwylir gan Lywodraeth Leol—ynghyd â safle a gaffaelir yn y pen draw ar y sail y caiff ei baratoi'n addas ar gyfer adeiladu cyfleuster profi. Bydd hyn yn amlwg yn gofyn am ffordd ymlaen y cytunwyd arni gyda'r tirfeddiannwr presennol, Celtic Energy. Mae trafodaethau technegol cychwynnol ar y gweill, a dywedwyd wrthyf fod y trafodaethau hynny'n gadarnhaol ac yn adeiladol ar bob ochr.
Mae Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn JVA hefyd yn cydweithio i ddatblygu a chyflwyno cais cynllunio ffurfiol ar gyfer y prosiect. Mae gwaith sylweddol wedi'i wneud eisoes, ac mae arolygon o'r effaith amgylcheddol wedi'u comisiynu. Rwyf wedi cael gwybod y dylai cais cynllunio ffurfiol fod yn barod i'w gyflwyno erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon neu'n gynnar yn 2020. Byddwn, wrth gwrs, yn ymgynghori'n eang â'r gymuned leol a rhanddeiliaid eraill ar y cynigion cyn cyflwyno'r cais cynllunio.
Hoffwn ddiolch i'r awdurdodau lleol yr ydym ni'n cydweithio â nhw am eu hymdrechion hyd yma, a'u hannog i ddyblu eu hymdrechion, gan weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru drwy'r cam nesaf yn y gwaith o ddatblygu'r prosiect.
Mewn mannau eraill yn y sector cyhoeddus mae diddordeb a chefnogaeth sylweddol i'n cynlluniau prosiect. Er enghraifft, yn Network Rail, mae'r gallu i brofi seilwaith y gellid ei ddarparu yng Nghymru yn agwedd arbennig ar drafodaethau cadarnhaol a pharhaus. Hoffwn nodi bod gan Network Rail raglen ymchwil a datblygu sylweddol ar y gweill rhwng 2019 a 2024, ac rydym ni'n ceisio ymgysylltu â Network Rail i ddod â rhan sylweddol o'r rhaglen honno yn rhan o'r ganolfan ragoriaeth.
Rwyf hefyd yn falch o nodi bod Rhwydwaith Ymchwil ac Arloesedd Rheilffyrdd y DU ac Innovate UK yn awyddus i weld ein huchelgais yn cael ei gwireddu, gyda chyfleoedd yma i gydweithio a chyd-ymwneud â phrifysgolion yng Nghymru a'r DU ehangach mewn modd fydd yn dwyn ffrwyth sylweddol.
Dirprwy Lywydd, rwyf hefyd wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, a hefyd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, yn gofyn am eu cefnogaeth. Mae'r ganolfan ragoriaeth yn cyd-fynd yn agos ag amcanion polisi Llywodraeth y DU yn ogystal â rhai Llywodraeth Cymru, yn enwedig nodau'r 'Strategaeth Ddiwydiannol: Bargen y Sector Rheilffyrdd', a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy'n anelu at:
'trawsnewid y sector rheilffyrdd drwy fynd ati i gynyddu'r defnydd o dechnoleg ddigidol, hybu cynhyrchiant, gwella'r gwasanaeth a dderbynnir gan y rhai sy'n defnyddio ein rheilffyrdd a meithrin sgiliau gweithlu'r DU er mwyn manteisio ar y cyfleoedd hynny'.
Dyma'n union yr hyn y bydd y ganolfan ragoriaeth yn ei wneud, a'r diwydiant rheilffyrdd sy'n dweud hynny.
Drwy gydol 2019, mae tîm y prosiect hefyd wedi bod yn rhan o broses eang o ymgysylltu â'r diwydiant preifat a chynnal profion marchnad cychwynnol. Mae'r ymateb gan y diwydiant rheilffyrdd wedi bod yn gadarnhaol iawn ar y cyfan. Mae nifer o gwmnïau rheilffyrdd mawr, yn y DU ac yn rhyngwladol, wedi mynegi cryn ddiddordeb mewn ymuno â'r bartneriaeth a'r prosiect fel partneriaid neu fel buddsoddwyr. Ni fydd y prosiect hwn yn cael ei wireddu heb geisio cydweithio mewn difrif calon gyda'r diwydiant. Mae swyddogion bellach yn ystyried y ffordd fwyaf priodol o ffurfioli dull o gydweithio gyda'r diwydiant rheilffyrdd yn ei gyfanrwydd a fydd yn galluogi'r prosiect i fanteisio ar yr arbenigedd gorau sydd ar gael.
Y pwyslais yn y lle cyntaf fydd y dasg angenrheidiol o fireinio ymhellach y pwyslais o gael achos busnes creiddiol a sicrhau yr achubir ar bob cyfle yn effeithiol. Os ydym yn llwyddiannus yn yr ymdrech hon, ac nid oed unrhyw sicrwydd ar hyn o bryd, bydd yr agweddau ariannol, masnachol, cyfalaf a gweithredol yn cael eu diffinio'n glir a, gobeithio, yn argyhoeddi.
Felly, mae fy neges i'r diwydiant rheilffyrdd a'n holl randdeiliaid heddiw yn un syml. Diolch am eich ymwneud cadarnhaol hyd yn hyn. Cytunwch â mi nawr y dylai'r blynyddoedd di-ri o drafodaethau di-ben-draw ddod i ben gyda hyn. Mae'n bryd symud y tu hwnt i'r sefyllfa bresennol o gyboli a bodloni ar bethau. Cael canolfan rhagoriaeth rheilffyrdd byd-eang yma yng Nghymru yw'r cyfle gorau mewn cenhedlaeth i sicrhau ased rhyngwladol yma yn y DU a fydd yn sicrhau manteision enfawr i'r diwydiant rheilffyrdd am ddegawdau i ddod. Yn bwysig iawn, i bobl Cymru, mae hwn yn gyfle i greu swyddi o ansawdd uchel ac i adfywio'r economi leol. Parhewch i weithio gyda ni a gadewch i ni gyflawni hyn gyda'n gilydd.