Part of the debate – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 21 Mai 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ym mis Mehefin 2018, dywedais wrth yr Aelodau fod yr achos strategol amlinellol dros gael canolfan fyd-eang o ragoriaeth rheilffyrdd yng Nghymru wedi'i gymeradwyo, ynghyd â chyllid ar gyfer datblygu prosiectau yn y cam nesaf. Hoffwn yn awr roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd sylweddol a fu hyd yn hyn. Rwy'n falch o ddweud y bydd sesiwn friffio dechnegol i Aelodau yn ystafell gynadledda B ar ddiwedd y datganiad hwn.
Yn unol â'r agwedd newydd tuag at ddatblygu economaidd y mae ein cynllun gweithredu economaidd yn ei nodi, mae'r prosiect hwn yn mynd â ni i gyfeiriad newydd iawn. Yn hytrach nag ymateb i anghenion busnesau unigol, mae hyn yn ateb i broblem ar draws y diwydiant. Fel yr ydym ni wedi'i wneud gyda'r Sefydliad Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch a gyda'r sefydliad ar gyfer lled-ddargludyddion cyfansawdd, fy nod yw creu cyfleuster a fydd yn denu hoelion wyth byd busnes ac yn eu hannog i fwrw gwreiddiau dwfn a gwerthfawr yma yng Nghymru.
Fel yn achos yr enghreifftiau eraill yr wyf i wedi'u rhoi, dechreuwyd y prosiect hwn mewn ymateb i'r galw clir gan y diwydiant. Yn wir, mae'r angen am gyfleuster profi deinamig o safon fyd-eang i'r diwydiant rheilffyrdd, wedi ei leoli yn y Deyrnas Unedig, wedi cael ei drafod ers 15 mlynedd o leiaf, ond yn anffodus, ni fu fawr ddim datblygiad. Mae ein dadansoddiad yn awgrymu na fu cynnydd am o leiaf dri rheswm: yn gyntaf, diffyg arweinyddiaeth, diffyg safle mawr iawn gyda'r caniatâd priodol, ac yn drydydd, anawsterau a chymhlethdod cynhenid datblygu achos busnes argyhoeddiadol mewn maes lle mae cymaint o wahanol randdeiliaid.
Mae ein hymateb i'r heriau hyn wedi dangos arweinyddiaeth glir ac effeithiol, ac rwy'n falch o ddweud ein bod ni wedi gwneud cynnydd gwirioneddol mewn llai na 12 mis drwy ddatblygu prosiect credadwy y gellir ei gyflawni, lleihau'r peryglon sydd ynghlwm â'r cyfle, a gosod y sylfeini ar gyfer cynnig y gellir buddsoddi ynddo mewn partneriaeth â diwydiant. Wrth gwrs, mae llawer i'w wneud eto.