Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 21 Mai 2019.
A gaf i ddiolch i Russell George am ei gwestiynau, a hefyd am ei gefnogaeth a'i anogaeth o ran y prosiect pwysig hwn? Rwy'n credu, mae'n deg dweud, bod cefnogaeth drawsbleidiol i'r prosiect, ac mae cryn gyffro drwy'r Siambr ac yn wir yn y rhanbarth a fydd yn elwa o'r ganolfan ragoriaeth hon a fydd gyda'r gorau yn y byd.
Soniodd Russell am y canolfannau Ewropeaidd. Wrth gwrs, mae dau gyfleuster prawf, yn y Weriniaeth Tsiec ac yn yr Almaen ar hyn o bryd. Mae'r ddau wedi bodoli am gyfnod sylweddol. Mae'r diwydiant ledled Ewrop, ond yn enwedig yn y DU, wedi dweud mai dyma'r adeg i ddatblygu cyfleuster newydd, ac mae'r safle a ddynodwyd gennym ni yng Nghymru yn gwbl addas i'r hyn a fydd y gyntaf o'i math yn y DU ac, yn ôl pob tebyg, y cyfleuster gorau o'i fath yn Ewrop, o bosib ar y blaned.
Rydym ni eisoes wedi buddsoddi £1 miliwn i ddatblygu'r cynigion. Byddwn yn gwneud cynnydd pellach yn rhan o'r cam nesaf i asesu faint y bydd y sector preifat yn ei fuddsoddi, ond ar sail ein profion marchnad cychwynnol hyd yma, credwn y bydd holl gost adeiladu'r prosiect yn dod o'r sector ei hun. Yn amlwg, bydd sefydliadau academaidd yn dangos diddordeb, a bydd creu cadair peirianneg rheilffyrdd yn rhan o elfen ymchwil a datblygu'r prosiect a amlinellais yn fy natganiad.
Gobeithio, yn ystod y sesiwn friffio sydd i ddilyn, y caiff canfyddiadau'r achos busnes amlinellol eu rhannu gydag Aelodau, ond byddaf wrth gwrs yn dilyn hyn gyda rhagor o fanylion maes o law.
A holodd Russell George hefyd am fuddion cymdeithasol ac economaidd ehangach y prosiect hwn a sut mae'n cyd-fynd yn dda â'r cynllun gweithredu economaidd a chyda'n polisi sgiliau. Wel, yn gyntaf oll, gyda'r cynllun gweithredu economaidd, rydym ni wedi symud oddi wrth y pwyslais ar gymorth busnes unigol i edrych ar sut y gallwn ni greu ffyrdd o ddenu buddsoddiad a chyfleusterau sy'n atebion anghenion y diwydiant cyfan. Cyfeiriais at y sefydliad ymchwil gweithgynhyrchu uwch yn y gogledd-ddwyrain, a fydd yn canolbwyntio i raddau helaeth ar gyfansoddion a deunyddiau ysgafn ar gyfer y sectorau awyrofod a modurol. Dyna ichi M-SParc hefyd, sy'n cefnogi dyheadau'r ymgyrch Ynys Ynni ar Ynys Môn. Mae'r sefydliad ymchwil lled-ddargludyddion cyfansawdd yn y clwstwr yn enghraifft arall yn y de-ddwyrain. Gallwn grybwyll hefyd y cyfleuster ymchwil a datblygu dur ym Mae Abertawe, a chyfleuster arall o bwys sydd i'w chwblhau yn fuan iawn yw'r ganolfan gynadledda ryngwladol. Ac, wrth gwrs, o ran y diwydiannau creadigol, roeddem yn cefnogi datblygiad Wolf Studios, sydd eto'n un o'r cyfleusterau gorau o'i fath ar gyfer y sector arbennig hwnnw.
Mae'r cyfleusterau atyniadol hyn wedi'u cynllunio i greu buddsoddiad tymor hir yng Nghymru. Fe'u cynlluniwyd i asio'n berffaith â strategaeth ddiwydiannol y DU yn ogystal â'n polisi sgiliau. Ac, o fewn y tri rhanbarth sy'n llunio adroddiadau blynyddol partneriaethau sgiliau rhanbarthol, mae angen sicrhau bod y llif o ddarpariaeth sgiliau yn cefnogi'r prosiectau atynu hyn. Felly, wrth gwrs, mewn blynyddoedd i ddod, byddwn yn disgwyl i'r cynllun sgiliau blynyddol ar gyfer y rhanbarth a fydd yn elwa fwyaf o'r ymyriad hwn roi sylw i'r angen i sicrhau bod cynifer o bobl yn y rhanbarth hwnnw â phosib wedi dysgu'r sgiliau i weithio yn y cyfleuster prawf.
Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn werth dweud, er ein bod ni wedi amcangyfrif y bydd oddeutu 150 o swyddi parhaol, fod y nifer yn fwy o lawer yn yr Almaen, ac y bydd nifer sylweddol iawn hefyd, rydym ni'n disgwyl y bydd—cannoedd—o is-gontractwyr, gweithwyr allanol ac arbenigwyr y diwydiant yn mynychu'r safle yn rheolaidd iawn, a bydd hynny yn ei dro yn cefnogi datblygiad yr economi ymwelwyr, sydd wrth gwrs yn bwysig iawn i'r ddwy ardal awdurdod lleol sydd wedi ffurfio'r cytundeb cyd-fenter â Llywodraeth Cymru.