Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 21 Mai 2019.
A allaf i groesawu'r datganiad yma ac a allaf i hefyd ddiolch i'r Gweinidog am wneud y datganiad, a hefyd croesawu'r weledigaeth ehangach sydd yma o gael canolfan rhagoriaeth rheilffyrdd yma yng Nghymru? A dŷn ni yn sôn am botensial o fuddsoddiad enfawr yn fan hyn, os am wireddu'r dyhead yna, ac mae'r weledigaeth yna i'w chroesawu'n fawr iawn, achos dŷn ni'n sôn am Onllwyn yn fan hyn, yr Onllwyn ar dop dyffryn Dulais yn fanna, ac mae gwir angen buddsoddiad ac mae gwir angen y swyddi. Felly, yn nhermau materion craffu rŵan—a dwi'n sylweddoli bod yna gyfarfodydd i ddilyn a fydd yn olrhain manylion y prosiect yma i ni fel Aelodau'r Cynulliad, ond yn nhermau ymateb, ac yn nhermau craffu bras nawr ar y datganiad rŷch chi wedi'i gyhoeddi y prynhawn yma, a allwch chi amlinellu rhagor o fanylion ariannol? Hynny yw, yn y bôn, faint o'r risg ariannol ydych chi, fel Llywodraeth Cymru, yn ei rhoi i hyn? Faint o'r arian rydych chi'n gallu ei gyhoeddi heddiw fydd yn dod yn uniongyrchol o goffrau Llywodraeth Cymru i hyn? Dyna'r cwestiwn cyntaf.
Yn nhermau'r posibilrwydd efo Brexit o adael Ewrop heb ddim cytundeb o gwbl, ac yn dilyn y cwestiynau dŷch chi wedi'u cael eisoes gan Russell George, wrth gwrs, mae yna bartneriaeth yn fan hyn efo gwledydd ar gyfandir Ewrop. Pa fath o sgil-effeithiau ydych chi'n eu rhagweld, os bydd yna adael Ewrop heb ddim cytundeb o gwbl, ar y weledigaeth fawr yma o'n blaenau ni y prynhawn yma?
Wrth gwrs, dŷn ni yn croesawu buddsoddiad, achos cefndir hyn i gyd, fel dŷch chi'n gwybod, achos rŷch chi wedi olrhain rhai o'r ffigurau yma eich hunan, ydy'r diffyg buddsoddiad ariannol yn isadeiledd rheilffyrdd Cymru dros y blynyddoedd—mae'r Gweinidog yn gyfarwydd iawn efo hyn. Yn enwedig rhwng 2011 a 2016, fe wnaeth rheilffyrdd Cymru dderbyn dim ond 1 y cant o'r cyllid i wella'r rheilffyrdd, er bod rheilffyrdd Cymru yn ffurfio 11 y cant o rwydwaith y Deyrnas Unedig. Hynny yw, yn y bum mlynedd yna, dim ond £198 miliwn allan o gyllideb o £12.2 biliwn—dim ond y £198 miliwn yna wnaeth rheilffyrdd Cymru dderbyn dros y bum mlynedd. Mae'r sefyllfa yna yn echrydus o wael.
Wrth gwrs, hefyd yn y cyfnod hwnnw roedd rheilffyrdd Cymru wedi cael eu tan-ariannu gan £1 biliwn, tra bod yna buddsoddi llawer mwy yn ardaloedd Lloegr—er enghraifft, £30 biliwn ar Crossrail 2 ac yn y blaen. Mae'n wir i ddweud, pe bai gwariant y pen yng Nghymru ar y rheilffyrdd yn cyd-fynd â gwariant y pen ar y rheilffyrdd yn ne-ddwyrain Lloegr, byddai £5.6 biliwn ychwanegol wedi'i fuddsoddi yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf o dan Lywodraethau Llafur a Cheidwadol y Deyrnas Unedig.
Felly, mae yna golled mewn buddsoddiad ariannol i'w wneud i fyny amdano fe, felly os ydyn ni'n gallu sicrhau canran o beth dŷn ni wedi colli allan arno fe, fel gwlad, dros y blynyddoedd diwethaf yma fel buddsoddiad i'n rheilffyrdd, bydd hynny i'w groesawu. Dyna pam, fel plaid, dŷn ni yn croesawu'r datblygiad yma, achos dŷn ni'n ei weld o fel buddsoddiad positif yn ein rheilffyrdd ni ac yn ein trenau ni, ond yn benodol yn ein rheilffyrdd ni—ein rheilffyrdd ni sydd wedi gorfod dioddef tanwariant ers blynyddoedd maith. Diolch yn fawr.