Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 21 Mai 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am wneud ei datganiad? Rwyf ychydig yn siomedig; rwy'n credu bod yn rhaid i mi fod yn onest am hyn, o gofio ein bod wedi cael datganiad cynharach, yr un ym mis Mawrth, ac roeddwn wedi gobeithio y byddai mwy o frys a phwrpas yn natganiad mis Mai, a addawyd yn y datganiad cynharach.
Ar hyn o bryd, gwyddom fod y Llywodraeth yn derbyn yr holl argymhellion yn adroddiad y grŵp arbenigol mewn egwyddor. Addawyd ymateb manwl inni ym mis Mai, a chredaf fod dweud y derbynnir yr argymhellion mewn egwyddor efallai ychydig yn siomedig. Roeddwn yn gobeithio y byddai gennym ni rywbeth tebyg efallai i'r naratif sydd gennym ni pan fydd Llywodraeth Cymru'n ymateb i adroddiadau pwyllgorau'r Cynulliad, fel ein bod yn gwybod pa rai sydd ar fin cael eu derbyn yn ymarferol ac wedyn y rhai sydd mewn egwyddor ond a fydd yn cael eu diwygio'n sylweddol, fel arfer, gan y Llywodraeth. Felly, dyna'r peth cyntaf yr wyf eisiau ei ddweud.
Ym mis Mawrth, addawodd y Gweinidog hefyd gynllun prosiect clir, ac roedd hynny i fod i gael ei gyflwyno heddiw, ond nid wyf yn credu, heb yr ymateb clir hwnnw i argymhellion adroddiad y grŵp arbenigwyr y gallwch chi gael rhywbeth sy'n gyfystyr â chynllun cyflenwi o'r fath. Rwy'n cydnabod bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud o ran y manylion am y camau nesaf. Er enghraifft, rwyf yn croesawu'r ffaith na fydd y trothwy uchder yn uwch na 18m. Credaf fod hwnnw'n ddatganiad defnyddiol iawn a chredaf y bydd yn un calonogol, ac mae'n un yr ydym yn ei gefnogi.
Cam arall yr wyf yn ei groesawu yw gwneud yr awdurdodau tân ac achub yn gyrff ymgynghori yn y broses gynllunio. Fodd bynnag, fel yr awgrymais yn gynharach, mae llai o gynnydd mewn meysydd eraill—er enghraifft, hyrwyddo ôl-osod systemau chwistrellu. Nid yw'r Gweinidog wedi gwneud llawer mwy nag ailadrodd yr hyn a ddywedodd ym mis Mawrth. Nid wyf yn credu ei fod yn wirioneddol yn gynllun prosiect clir i ddweud, ynghylch chwistrellwyr dŵr, y bydd 'Canllaw i Ddeiliad Tai ar Systemau Chwistrellu', a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 2015, yn cael ei ail-lansio. Roeddwn i wir yn disgwyl mwy erbyn hyn.
Dywedais yn fy ymateb i ddatganiad mis Mawrth fod angen inni gynnwys trigolion yn llawnach ac yn fwy effeithiol. Ac er fy mod yn falch y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chartrefi Cymunedol Cymru i, a dyfynnaf, ystyried sut i wella swyddogaeth preswylwyr drwy sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed— diwedd y dyfyniad—roeddwn wedi disgwyl rhywbeth ychydig yn fwy pendant ac yn sicr yn gynt.
Bydd llawer o'r gwaith angenrheidiol i weithredu argymhellion y grŵp arbenigol, o leiaf y rhai y byddwn ni'n clywed iddyn nhw gael eu derbyn yn ymarferol, yn gyfrifoldeb y ddwy ffrwd waith, fel y nododd y Gweinidog. Ac rwy'n sylweddoli bod angen ystyried materion yn ofalus ac yn llawn. Fodd bynnag, mae hefyd angen gweithredu'n gyflym a rhoi'r flaenoriaeth uchaf i ddiogelwch tân. Yn wir, dywedodd y Gweinidog yn ei datganiad ym mis Mawrth—a dyfynnaf eto nawr—y byddai:
cynllun prosiect, gydag amserlenni clir.
Wel, yr unig amserlen glir y gallaf ei gweld yn y datganiad hwn yw'r addewid o ymgynghoriad yn yr haf, sef 2020. Mae hynny'n addewid o ymgynghoriad mewn blwyddyn o nawr felly. Nid canlyniad ymgynghoriad mewn blwyddyn yw hwn, ond cychwyn ymgynghoriad mewn blwyddyn, a hynny gyda'r bwriad—bwriad—o ddeddfu yn y tymor Cynulliad nesaf.
Rhaid inni fod yn agored yn hyn o beth: mae hyn yn araf, ac yn fy marn i, mae'n debycach i'r broses ddeddfwriaethol drefnus a fyddai gan Lywodraeth mewn unrhyw faes polisi cyhoeddus y mae angen ei diweddaru a'i diwygio, a heb faterion tyngedfennol o berygl ynddi, fel sydd gennym ni, mae arnaf ofn, ar hyn o bryd mewn rhai agweddau ar ddiogelwch tân, yn enwedig mewn cysylltiad ag adeiladau uchel iawn. Mae angen inni weithredu'n gyflymach fel y gallwn ni weithredu ar sail gadarn y dystiolaeth y mae adolygiad Hackitt ac argymhellion y grŵp arbenigol hwn wedi'i datblygu.
A gaf i ddweud—? Os byddwch yn gweithredu yn gyflymach, mae gennym ni ddwy flynedd o hyd o'r tymor Cynulliad hwn. Rwy'n gwybod y bydd ein grŵp yn gweithio'n llawn gyda chi ar hynny, ac rwy'n siŵr y byddai'r grwpiau eraill yn y Cynulliad hwn yn gwneud yr un peth. Fe allwn ni weithredu'n gyflymach; rwyf yn eich annog chi i wneud hynny.