Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 21 Mai 2019.
Rwy'n derbyn yn llwyr yr hyn a ddywed David Melding, ac wrth gwrs mae temtasiwn inni fod eisiau gwneud hyn yn gyflym, oherwydd ein bod ni i gyd yn deall y perygl, os mynnwch chi, ac yn amlwg nid ydym ni eisiau gweld ailadrodd dim o'r drasiedi a welsom ni yn Grenfell. Bydd unrhyw un sydd wedi gweld unrhyw rai o Aelodau'r grŵp Justice4Grenfell yn siarad wedi clywed eu ple o'r galon. Ond un o'r pledion eraill sydd ganddyn nhw hefyd yw inni wella'r system ar gyfer y tymor hwy a bod llais y tenant yn amlwg iawn ac yn ganolog i hynny, felly mae ychydig o wrthdaro o safbwynt rhuthro a hefyd sicrhau bod hynny ar waith. Ond rwyf yn deall yr hyn y mae'n ei ddweud.
Byddaf yn fwy na pharod i anfon y cynllun prosiect manwl sydd gennym ni hyd yma i egluro'r camau penodol sydd â dyddiadau ynghlwm wrthynt, ynghyd â'r pwyntiau a ragwelir ar gyfer dogfennau allweddol. Rwy'n pwysleisio nad yw'n gynllun prosiect cyflawn, ond rwy'n hapus iawn i'w rannu fel y mae nawr ac wrth iddo gael ei gyflwyno. Rydym ni eisiau bod mor agored a thryloyw â phosib. Clywaf ei gynnig i weithio ar draws y Siambr; rwy'n siŵr na fydd problem ynghylch hynny. Mae'n fater o fod yn hollol sicr i ble'r ydym ni eisiau mynd. Mae rhai pethau yr ydym yn dal i fod yn awyddus i'w rhoi ar waith cyn inni fynd amdani, a byddan nhw'n gyfuniad o bethau y gallwn eu gwneud yn ystod y tymor Cynulliad hwn: cyfres o reoliadau eilaidd ac ati a fydd yn gweithio ar unwaith, a rhai canllawiau wedi'u hailgyflwyno, sy'n amlwg yn cael eu diweddaru yn hytrach na'u hailgyhoeddi'n unig, fel bod ganddyn nhw'r pethau angenrheidiol ynddyn nhw.
Ond mae rhai pethau sy'n gofyn am ddeddfwriaeth sylfaenol eithaf sylweddol, ac os gallwn ni ei phasio yn ystod y tymor Cynulliad hwn, fe wnawn ni'n bendant, ond nid wyf yn credu ei bod yn ddeddfwriaeth ddadleuol yn yr ystyr ei bod yn dibynnu ar fandad gwleidyddol i'w phasio. Rwyf yn credu y bydd cydsyniad iddi ar draws y Siambr ac, ni waeth beth fydd cydbwysedd pleidiau'r Cynulliad nesaf, bydd yn rhywbeth y bydd pwy bynnag fydd yn llywodraethu eisiau bwrw ymlaen â hi, a hoffem ni ei chael hi mor agos at ei chwblhau ag y gallwn ni. Os gallwn ei chael, yna gwych. Rwyf dim ond yn dweud nad wyf yn gallu addo hynny ar hyn o bryd, oherwydd bod llawer o waith i'w wneud rhwng nawr a'r adeg pan fyddem ni mewn sefyllfa i anfon cyfarwyddiadau polisi at y cyfreithwyr i'w drafftio, er enghraifft.
Felly, rydym yn mynd mor gyflym ag y credwn ni sy'n ddiogel i gael y system yn iawn, ond rwy'n rhannu ei rwystredigaeth ynglŷn â'r amser y mae'n ei gymryd i wneud hynny. Rwy'n hapus i rannu'r cynllun prosiect manwl sydd gennym ni hyd yn hyn, a, Dirprwy Lywydd, i ddiweddaru pob Aelod ynglŷn â hynny wrth inni symud ymlaen.