7. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Blwyddyn Ryngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Ieithoedd Cynhenid

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 21 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 5:30, 21 Mai 2019

Mae hi’n werth cofio bod y Gymraeg mewn sefyllfa gryfach na nifer o ieithoedd ar draws y byd. Mae’n destun pryder nodi bod cymaint o ieithoedd yn y byd yn wynebu heriau. Mae arbenigwyr yn amcangyfrif bod un iaith yn marw bob yn ail wythnos, ac ar y raddfa hon bydd tua hanner o’r 7,000 o ieithoedd yn y byd heddiw yn debygol o ddiflannu yn ystod y 100 mlynedd nesaf. Wrth feddwl am yr ystadegau hyn, rhaid cofio bod ieithoedd yn perthyn i bobl a chymunedau, a’u bod yn llawer mwy na jest modd o gyfathrebu—maen nhw'n rhan o gyfoeth ac amrywiaeth diwylliannol sy'n perthyn i'r byd.

Mae’r flwyddyn hon yn rhoi cyfle i ni, fel gwlad sydd wedi gweld adfywiad yn yr ymdrech i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, i ddangos i eraill yr ymdrechion rŷm ni’n eu gwneud ac i adrodd ein stori ni ynghylch sut ydym ni'n mynd ati i gynllunio’n ieithyddol yma yng Nghymru. Mae’r flwyddyn hefyd yn rhoi cyfle i ni rannu ein harbenigedd a’n profiad. Mae hefyd yn gyfle i ni ddysgu o brofiad gwledydd eraill a chreu cysylltiadau rhyngwladol newydd.

Ond, yn bennaf oll, dwi'n awyddus iawn i ddangos i’r byd fod ein gweledigaeth ni ar gyfer y Gymraeg yn un sy'n gynhwysol ac yn eang. Hynny yw, nid jest gwarchod y Gymraeg a’i diwylliant yn unig rŷm ni eisiau ei wneud, ond cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg, rhoi lle i’r diwylliant esblygu a chroesawu pobl newydd i’r Gymraeg.

Felly, ein hamcanion ni fel Llywodraeth wrth gymryd rhan yn y flwyddyn yma yw rhoi platfform i ni fel gwlad allu, yn gyntaf, godi proffil Cymru yn rhyngwladol fel gwlad ddwyieithog, a chodi proffil Cymru, yn dilyn Brexit, ymhlith sefydliadau a rhwydweithiau rhyngwladol a byd-eang; yn ail, dathlu hanes a diwylliant y Gymraeg yn rhyngwladol; ac, yn drydydd, atgyfnerthu Cymru fel un o’r gwledydd arweiniol o safbwynt cynllunio ieithyddol, ac i ddysgu, hefyd, gan eraill.

Drwy hyn oll, fy mwriad yw cyfrannu tuag at wireddu elfen hollbwysig o’n strategaeth Cymraeg 2050, sef creu amodau ffafriol i ni allu cyrraedd miliwn o siaradwyr a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg. Un elfen bwysig ar gyfer creu amodau ffafriol yw codi ymwybyddiaeth a meithrin balchder yng Nghymru o le’r Gymraeg yn y byd ymhlith teulu o ieithoedd. Fel mae 'Cymraeg 2050' yn ei ddweud, rŷm ni am

'sicrhau bod y Gymraeg yn rhan ganolog o’n hymdrechion i greu pontydd rhwng Cymru a’r byd a’i gwneud yn gyfrwng i groesawu a chymhathu pobl sy’n symud i Gymru.'

Fel y Gweinidog sy’n gyfrifol am y Gymraeg a chysylltiadau rhyngwladol, rwy’n gweld cyfle arbennig i ddod â’r ddwy agwedd yma ar fy mhortffolio i at ei gilydd. Rwy’n sicr y gall y Gymraeg elwa ar gael proffil uwch yn rhyngwladol, a dwi hefyd yn meddwl y gall Cymru elwa ar y ffaith ein bod ni yn wlad ddwyieithog, fel y soniais i ym Manc y Byd yn Washington yn ddiweddar.

Mae’n amlwg i mi fod ein dwyieithrwydd byw yn bwynt gwerthu unigryw i ni—ei bod yn USP i ni. Er bod ieithoedd lleiafrifol yn bodoli ochr yn ochr â’r Saesneg ym Mhrydain ac Iwerddon—ac rŷm ni'n cydweithio’n agos â’r Llywodraethau hynny drwy'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig—mae’n amlwg bod sefyllfa’r Gymraeg yn wahanol.

Y cwestiwn, wedyn, yw: sut gallwn ni fanteisio ar y pwynt gwerthu unigryw hynny? Oes cyfleoedd economaidd yn codi o’r ffaith bod gyda ni weithlu dwyieithog yma? Oes modd i ni ddatblygu marchnad fel man profi—test bed—ar gyfer datblygu meddalwedd dwyieithog ac amlieithog, gan fod y Gymraeg yn cyd-fyw â’r Saesneg? Dyma sy’n sail i’r cynllun gweithredu ar gyfer technoleg a'r Gymraeg.

Elfen arall o fy uchelgais yw defnyddio’r flwyddyn fel modd o ddatblygu Cymru fel pencampwr ieithoedd lleiafrifol, trwy rannu profiad ac arfer da â gwledydd eraill. Byddwn ni'n gwneud mwy i ddathlu’r gwaith sy’n digwydd yng Nghymru i hyrwyddo’r Gymraeg. Rŷm ni eisoes yn aelod o wahanol rwydweithiau cynllunio ieithyddol rhyngwladol, fel y rhwydwaith i hybu amrywiaeth ieithyddol—yr NPLD—a Chyngor Prydeinig-Gwyddelig. Ond dwi’n awyddus i adeiladu ar hyn. Pan oeddwn i yn yr Unol Daleithiau, trefnodd Llywodraeth Cymru seminar yn y Cenhedloedd Unedig gyda chynrychiolwyr o Quebec, Gwlad y Basg a Fflandrys. Roedd gwir ddiddordeb ganddyn nhw i ddysgu o'r hyn sy’n digwydd yng Nghymru, a dwi’n siŵr bod modd i ni hefyd barhau i ddysgu o brofiadau gwledydd eraill.

Dwi’n credu bod gyda ni stori dda i’w hadrodd ynghylch sut rŷm ni eisoes wedi datblygu fel gwlad, trwy addysg drochi, trwy addysg feithrin, cynllunio ieithyddol ar lawr gwlad, statws y Gymraeg, a’r gwaith hybu sy’n digwydd gyda busnesau, ac yn y blaen. Ac, wrth gwrs, mae gyda ni artistiaid amryddawn yng Nghymru sy’n perfformio yn y Gymraeg. Mae ein hartistiaid ni yn cael mwy a mwy o gyfleoedd i berfformio yn Gymraeg ar draws y byd. Dyna oedd thema symposiwm Mamiaith a gynhaliwyd ym Methesda ym mis Ebrill gan ein partneriaid yn y flwyddyn ryngwladol yma, UNESCO. Hoffwn i hefyd ddiolch i’r bardd cenedlaethol, Ifor ap Glyn, am ei gerdd 'Lleisio (Voicing)' a luniodd i nodi’r flwyddyn.

Yn gynharach eleni, dathlwyd Dydd Miwisg Cymru drwy ffrydio gig a gynhaliwyd yma yn y Senedd—a diolch yn fawr i'r Llywydd am ganiatáu hynny—yn fyw ar draws y byd. Hefyd, ddydd Gwener diwethaf yn Llundain, dangosodd pobl ifanc Cymru bod modd iddynt ddefnyddio’r Gymraeg i leisio neges gyfoes ynghylch lleihau troseddu â chyllyll, sef neges heddwch ac ewyllys da yr Urdd eleni.

Bydd rhagor yn digwydd i nodi’r flwyddyn dros y misoedd nesaf, gan gynnwys partneriaeth ryngwladol gyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol gydag Iwerddon a chwmni Fidget Feet, a digwyddiad i gloi a chloriannu’r flwyddyn. 

Dwi’n awyddus i sicrhau bod y flwyddyn yn fan cychwyn ar gyfer cryfhau troedle’r Gymraeg yn rhyngwladol a chyfrannu ein harbenigedd, ein profiad a’n gweledigaeth i helpu ieithoedd ar draws y byd.