– Senedd Cymru am 5:29 pm ar 21 Mai 2019.
Eitem 7 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Weinidog y Gymraeg a chysylltiadau rhyngwladol ar flwyddyn ryngwladol ieithoedd brodorol y Cenhedloedd Unedig. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a chysylltiadau rhyngwladol, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr. Yn 2016, penderfynodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y dylai 2019 fod yn Flwyddyn Ryngwladol ar gyfer Ieithoedd Brodorol. Dŷn ni i gyd yn gyfarwydd ag arfer y Cenhedloedd Unedig o dynnu sylw’r byd at faterion o bwys. Dwi'n falch, felly, o’r cyfle i roi gwybod i’r Cynulliad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i nodi’r flwyddyn.
Mae yna dair amcan gan y Cenhedloedd Unedig ar gyfer y flwyddyn. Y cyntaf yw rhoi ffocws byd-eang ar yr heriau sy’n wynebu ieithoedd brodorol a thanlinellu eu harwyddocâd i ddatblygu cynaliadwy, cymodi, datblygu llywodraethiant da ac annog heddwch. Yn ail mae dod o hyd i gamau pendant i wella sefyllfa’r ieithoedd. Ac, yn drydydd, mae cynyddu gallu sefydliadau sy’n cefnogi ac yn hybu ieithoedd a rhoi help i warchod hawliau siaradwyr yr ieithoedd hynny. Mae UNESCO wedi cymryd yr awenau ar gydlynu’r flwyddyn ar ran y Cenhedloedd Unedig.
Mae hi’n werth cofio bod y Gymraeg mewn sefyllfa gryfach na nifer o ieithoedd ar draws y byd. Mae’n destun pryder nodi bod cymaint o ieithoedd yn y byd yn wynebu heriau. Mae arbenigwyr yn amcangyfrif bod un iaith yn marw bob yn ail wythnos, ac ar y raddfa hon bydd tua hanner o’r 7,000 o ieithoedd yn y byd heddiw yn debygol o ddiflannu yn ystod y 100 mlynedd nesaf. Wrth feddwl am yr ystadegau hyn, rhaid cofio bod ieithoedd yn perthyn i bobl a chymunedau, a’u bod yn llawer mwy na jest modd o gyfathrebu—maen nhw'n rhan o gyfoeth ac amrywiaeth diwylliannol sy'n perthyn i'r byd.
Mae’r flwyddyn hon yn rhoi cyfle i ni, fel gwlad sydd wedi gweld adfywiad yn yr ymdrech i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, i ddangos i eraill yr ymdrechion rŷm ni’n eu gwneud ac i adrodd ein stori ni ynghylch sut ydym ni'n mynd ati i gynllunio’n ieithyddol yma yng Nghymru. Mae’r flwyddyn hefyd yn rhoi cyfle i ni rannu ein harbenigedd a’n profiad. Mae hefyd yn gyfle i ni ddysgu o brofiad gwledydd eraill a chreu cysylltiadau rhyngwladol newydd.
Ond, yn bennaf oll, dwi'n awyddus iawn i ddangos i’r byd fod ein gweledigaeth ni ar gyfer y Gymraeg yn un sy'n gynhwysol ac yn eang. Hynny yw, nid jest gwarchod y Gymraeg a’i diwylliant yn unig rŷm ni eisiau ei wneud, ond cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg, rhoi lle i’r diwylliant esblygu a chroesawu pobl newydd i’r Gymraeg.
Felly, ein hamcanion ni fel Llywodraeth wrth gymryd rhan yn y flwyddyn yma yw rhoi platfform i ni fel gwlad allu, yn gyntaf, godi proffil Cymru yn rhyngwladol fel gwlad ddwyieithog, a chodi proffil Cymru, yn dilyn Brexit, ymhlith sefydliadau a rhwydweithiau rhyngwladol a byd-eang; yn ail, dathlu hanes a diwylliant y Gymraeg yn rhyngwladol; ac, yn drydydd, atgyfnerthu Cymru fel un o’r gwledydd arweiniol o safbwynt cynllunio ieithyddol, ac i ddysgu, hefyd, gan eraill.
Drwy hyn oll, fy mwriad yw cyfrannu tuag at wireddu elfen hollbwysig o’n strategaeth Cymraeg 2050, sef creu amodau ffafriol i ni allu cyrraedd miliwn o siaradwyr a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg. Un elfen bwysig ar gyfer creu amodau ffafriol yw codi ymwybyddiaeth a meithrin balchder yng Nghymru o le’r Gymraeg yn y byd ymhlith teulu o ieithoedd. Fel mae 'Cymraeg 2050' yn ei ddweud, rŷm ni am
'sicrhau bod y Gymraeg yn rhan ganolog o’n hymdrechion i greu pontydd rhwng Cymru a’r byd a’i gwneud yn gyfrwng i groesawu a chymhathu pobl sy’n symud i Gymru.'
Fel y Gweinidog sy’n gyfrifol am y Gymraeg a chysylltiadau rhyngwladol, rwy’n gweld cyfle arbennig i ddod â’r ddwy agwedd yma ar fy mhortffolio i at ei gilydd. Rwy’n sicr y gall y Gymraeg elwa ar gael proffil uwch yn rhyngwladol, a dwi hefyd yn meddwl y gall Cymru elwa ar y ffaith ein bod ni yn wlad ddwyieithog, fel y soniais i ym Manc y Byd yn Washington yn ddiweddar.
Mae’n amlwg i mi fod ein dwyieithrwydd byw yn bwynt gwerthu unigryw i ni—ei bod yn USP i ni. Er bod ieithoedd lleiafrifol yn bodoli ochr yn ochr â’r Saesneg ym Mhrydain ac Iwerddon—ac rŷm ni'n cydweithio’n agos â’r Llywodraethau hynny drwy'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig—mae’n amlwg bod sefyllfa’r Gymraeg yn wahanol.
Y cwestiwn, wedyn, yw: sut gallwn ni fanteisio ar y pwynt gwerthu unigryw hynny? Oes cyfleoedd economaidd yn codi o’r ffaith bod gyda ni weithlu dwyieithog yma? Oes modd i ni ddatblygu marchnad fel man profi—test bed—ar gyfer datblygu meddalwedd dwyieithog ac amlieithog, gan fod y Gymraeg yn cyd-fyw â’r Saesneg? Dyma sy’n sail i’r cynllun gweithredu ar gyfer technoleg a'r Gymraeg.
Elfen arall o fy uchelgais yw defnyddio’r flwyddyn fel modd o ddatblygu Cymru fel pencampwr ieithoedd lleiafrifol, trwy rannu profiad ac arfer da â gwledydd eraill. Byddwn ni'n gwneud mwy i ddathlu’r gwaith sy’n digwydd yng Nghymru i hyrwyddo’r Gymraeg. Rŷm ni eisoes yn aelod o wahanol rwydweithiau cynllunio ieithyddol rhyngwladol, fel y rhwydwaith i hybu amrywiaeth ieithyddol—yr NPLD—a Chyngor Prydeinig-Gwyddelig. Ond dwi’n awyddus i adeiladu ar hyn. Pan oeddwn i yn yr Unol Daleithiau, trefnodd Llywodraeth Cymru seminar yn y Cenhedloedd Unedig gyda chynrychiolwyr o Quebec, Gwlad y Basg a Fflandrys. Roedd gwir ddiddordeb ganddyn nhw i ddysgu o'r hyn sy’n digwydd yng Nghymru, a dwi’n siŵr bod modd i ni hefyd barhau i ddysgu o brofiadau gwledydd eraill.
Dwi’n credu bod gyda ni stori dda i’w hadrodd ynghylch sut rŷm ni eisoes wedi datblygu fel gwlad, trwy addysg drochi, trwy addysg feithrin, cynllunio ieithyddol ar lawr gwlad, statws y Gymraeg, a’r gwaith hybu sy’n digwydd gyda busnesau, ac yn y blaen. Ac, wrth gwrs, mae gyda ni artistiaid amryddawn yng Nghymru sy’n perfformio yn y Gymraeg. Mae ein hartistiaid ni yn cael mwy a mwy o gyfleoedd i berfformio yn Gymraeg ar draws y byd. Dyna oedd thema symposiwm Mamiaith a gynhaliwyd ym Methesda ym mis Ebrill gan ein partneriaid yn y flwyddyn ryngwladol yma, UNESCO. Hoffwn i hefyd ddiolch i’r bardd cenedlaethol, Ifor ap Glyn, am ei gerdd 'Lleisio (Voicing)' a luniodd i nodi’r flwyddyn.
Yn gynharach eleni, dathlwyd Dydd Miwisg Cymru drwy ffrydio gig a gynhaliwyd yma yn y Senedd—a diolch yn fawr i'r Llywydd am ganiatáu hynny—yn fyw ar draws y byd. Hefyd, ddydd Gwener diwethaf yn Llundain, dangosodd pobl ifanc Cymru bod modd iddynt ddefnyddio’r Gymraeg i leisio neges gyfoes ynghylch lleihau troseddu â chyllyll, sef neges heddwch ac ewyllys da yr Urdd eleni.
Bydd rhagor yn digwydd i nodi’r flwyddyn dros y misoedd nesaf, gan gynnwys partneriaeth ryngwladol gyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol gydag Iwerddon a chwmni Fidget Feet, a digwyddiad i gloi a chloriannu’r flwyddyn.
Dwi’n awyddus i sicrhau bod y flwyddyn yn fan cychwyn ar gyfer cryfhau troedle’r Gymraeg yn rhyngwladol a chyfrannu ein harbenigedd, ein profiad a’n gweledigaeth i helpu ieithoedd ar draws y byd.
Diolch yn fawr, Weinidog, am y datganiad. Allaf i jest gofyn i ddechrau—?
Fe wnaethoch chi ddweud yn eich datganiad, os wyf yn deall hyn yn iawn, mai UNESCO yw'r corff arweiniol ar gyfer cyd-gysylltu'r flwyddyn ar ran y Cenhedloedd Unedig.
Ydy hynny'n iawn?
Wel, ar ôl cael cipolwg sydyn ar eu gwefan cyn dod yma, sylweddolais eu bod yn trefnu pum digwyddiad yng Nghymru. Dydw i ddim yn siŵr a yw hynny mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, ond tybed a gaf i erfyn arnoch chi ar y dechrau yma i gysylltu â phwy bynnag sy'n gyfrifol am eu gwefan i egluro o’r pum lle hyn y maen nhw wedi’u rhoi ar eu map o Gymru, nad yw pedwar ohonyn nhw yng Nghaerdydd fel y maen nhw i fod ac, i bob golwg, mae Ynys Manaw yn agos i Gaergybi. Felly, rwy’n credu bod angen ychydig o arweiniad a chymorth ar y Cenhedloedd Unedig.
Ond y rheswm dros grybwyll hynny yw oherwydd mai un o'r cwestiynau y dylem ni fod yn ei ofyn yw a yw'r Cenhedloedd Unedig yn rhoi unrhyw arian naill ai i Lywodraeth Cymru neu i unrhyw sefydliad arall yn uniongyrchol i helpu gyda hyn, oherwydd mae’r tri amcan a amlinellwyd gennych chi yn eich datganiad yn rhai eithaf pwysig, yn enwedig y trydydd ohonyn nhw, sef cynyddu capasiti’r holl randdeiliaid sy'n cefnogi ac yn hybu ieithoedd brodorol ac yn diogelu hawliau pobl sy'n defnyddio'r ieithoedd hynny. Ac felly, mae rhai cwestiynau amlwg i mi ynghylch a ydyn nhw'n eich helpu chi'n ariannol i, wn i ddim, gefnogi'r mentrau iaith, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, efallai, neu, yn arbennig o bwysig i mi, y prosiect Iaith Gwaith. Oherwydd rwy'n sylweddoli bod rhywfaint o arian wedi mynd tuag at y sefydliadau hyn hyd yn hyn, ond rwy'n credu y gallen nhw bob amser wneud ag ychydig mwy os ydyn nhw'n mynd i gyflawni nid yn unig nodau strategol Llywodraeth Cymru, ond hefyd amcanion y Cenhedloedd Unedig.
Mae gen i ddiddordeb yn yr hyn yr oeddech yn ei ddweud bod Cymru'n genedl y gallai eraill ei dilyn o ran cynllunio ieithyddol. Rwy'n credu y gallwn ni fod yn onest yn y fan hyn a dweud nad yw wedi bod llwyddiannus iawn bob amser. Rwy'n meddwl am y cenedlaethau cynnar hynny, ar ôl datganoli, y bu'n rhaid iddyn nhw fodloni eu hunain â hanner TGAU yn y Gymraeg. Wyddoch chi, rydym ni wedi bod trwy gyfnod braidd yn anodd o ran penderfynu a ddylem ni gadw Comisiynydd y Gymraeg, er enghraifft. O ran y fersiynau cynnar o'r cynlluniau statudol Cymraeg mewn addysg—wyddoch chi, roedd rhai amheuon am y rheini, yn bennaf oherwydd, wrth gwrs, nad oedd sail statudol i gyflawni unrhyw beth yn y cynlluniau strategol hynny mewn gwirionedd. Ond mae pethau wedi symud ymlaen. Efallai ein bod wedi dysgu oddi wrth wledydd eraill ein hunain, fel y gwnaethoch chi ddweud ein bod ni. Yn wir, am Gomisiynydd y Gymraeg yr wyf i'n meddwl amdano yn y fan hyn: nid oes cymaint â hynny o amser wedi mynd heibio ers i Gaerdydd gynnal cyfarfod o gomisiynwyr iaith o bob cwr o'r byd ac rwy'n credu bod hynny wedi atgyfnerthu—dydw i ddim yn gwybod beth yw barn yr Aelodau eraill ar hyn—ond wedi atgyfnerthu pa mor bwysig yw'r swyddogaeth honno yma yng Nghymru.
Rwy'n credu i chi sôn hefyd eich bod chi eisiau defnyddio hwn fel cyfle i atgyfnerthu neges yr ydym ni, rwy'n credu, yn ei chyflwyno ar hyn o bryd, sef bod Cymru yn lle i ddiwylliant esblygu ac i bobl newydd gael eu cyflwyno i'r iaith. Ac rydym ni yn ystyried cwricwlwm newydd i Gymru—gallaf weld yr holl uchelgais sydd ynddo ar gyfer yr iaith a chontinwwm Cymraeg, ond, wrth gwrs, rydym ni ar gam cynnar iawn o ran gweld sut beth fydd hynny mewn bywyd go iawn. Ond tybed a allwch chi roi ychydig o wybodaeth i ni, yn eich ymateb i'r cwestiynau hyn, ynglŷn â sut yr ydym ni'n cyrraedd y gymuned ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig—mae'n ddrwg gen i eu homogeneiddio yn y ffordd honno. Ond, wrth gwrs, mae'r holl bobl ifanc mewn cymunedau ledled Cymru wedi bod â Chymraeg yn eu meysydd llafur ers amser maith iawn, ond rwy'n credu ei bod hi'n weddol amlwg nad yw'r cyfleoedd i bobl ifanc mewn rhai rhannau o Abertawe, er enghraifft—nad ydyn nhw o bosib yn cael y cyfle i ymarfer eu Cymraeg. Wrth gwrs, yn rhai o'r aelwydydd hyn, maen nhw eisoes yn siarad dwy iaith. Maen nhw ar y blaen, mewn gwirionedd, wrth siarad trydedd iaith, felly efallai y gallwch chi ddweud ychydig wrthym ni am y gwaith sy'n cael ei wneud ar hynny.
Rwy'n sylwi hefyd ar y wefan UNESCO, ym Mhrydain, bod gwaith priodol ar gyfer y flwyddyn hon o ieithoedd brodorol, yn cynnwys digwyddiad, ym Manceinion, sy'n trafod Sbaeneg Lladin-Americanaidd; yn Leeds, mae yna ddigwyddiadau yn ymwneud ag is-gyfandir India a'u hieithoedd; ac yng Nghaeredin, yn rhyfedd iawn, mae ganddyn nhw ddigwyddiad yn cefnogi'r Ffrangeg, a doeddwn i ddim yn credu ei bod hi'n gynhenid i'r Alban, ond dyna chi. Fy nghwestiwn, mae'n debyg, yw: a ydym ni'n edrych y tu hwnt i'r Gymraeg pan fyddwn ni'n ystyried achub ar gyfleoedd o'r flwyddyn benodol hon? Ac rwy'n meddwl am Iaith Arwyddion Prydain yn arbennig, oherwydd byddwn i'n dweud bod yna ddadl bod honno'n iaith frodorol i Gymru ac mae hi wedi'i chodi ar lawr y Siambr hon nifer o weithiau.
Yn gyflym iawn, felly, tybed a wnewch chi ddweud ychydig wrthym ni am sail cynllun gweithredu technoleg y Gymraeg a sut ydych chi'n credu y gallai hwnnw gael ei ymwreiddio mewn cynlluniau fel Technocamps a Gwyddoniaeth i Ysgolion, sy'n amlwg yn gynlluniau sy'n annog disgyblion i astudio gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, a fydd yn eithaf pwysig i'n heconomi yn gyffredinol?
Ond hefyd, o ran fy mhwynt olaf, sy'n bwynt yr wyf yn cytuno'n llwyr â chi arno, sef defnyddio ein hunaniaeth fel cenedl ddwyieithog i fanteisio'n economaidd yn ogystal ag yn ddiwylliannol mewn cyd-destun byd-eang. Mae'r ffaith mai Cymru yw'r unig ran o'r DU sy'n gallu dweud, 'Rydych chi'n rhydd i weithredu yn y fan yma mewn cyfrwng heblaw am Saesneg' yn beth gwych i'w hyrwyddo, yn fy marn i. Ond yr hyn y byddwn i'n eich annog i'w wneud yw ystyried sut y gallem ni wneud hwnnw'n gynnig o ran creu Cymru dairieithog a gweithio gyda'r Gweinidog Addysg ar sicrhau lle i ieithoedd tramor modern yn y cwricwlwm newydd. Oherwydd, ar hyn o bryd, fel y gwyddoch chi, nid yw'n cael blaenoriaeth uchel iawn. Rwy'n bryderus iawn bod y gallu i ddysgu ieithoedd tramor modern yn diflannu, ac er fy mod i'n siŵr y byddai gennym ni i gyd uchelgais gweld hynny yn y cwricwlwm cenedlaethol, mae angen i ni wneud yn siŵr bod gennym ni bobl sy'n gallu ei ddarparu. Nid yw hynny'n gyfystyr â dweud bod y Gymraeg ac ieithoedd tramor modern yr un fath nac y dylent gael yr un flaenoriaeth, ond os mai dyna fydd ein modd o werthu Cymru, byddai'n well inni wneud hynny'n dda iawn. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr am y cwestiynau yna. Mae yna amryw o gwestiynau, lot fawr o gwestiynau, a diolch yn fawr am yr holl ymchwil rŷch chi wedi'i wneud ar y mater yma. Yn anffodus, dyw UNESCO ddim wedi rhoi arian i ni; yn wir, mae'n rhaid i ni gyfrannu i'r pot er mwyn bod yn rhan o hwn. A beth sydd wedi digwydd yw bod Celfyddydau Rhyngwladol Cymru wedi rhoi cynnig o £50,000 er mwyn i ni allu gwneud rhai o'r gweithiau a'r projectau rŷm ni'n gobeithio eu gwneud yn ystod y flwyddyn. Felly, mae yna ambell i brosiect; eisoes dwi wedi sôn am yr un oedd ym Methesda ac rŷn ni’n gobeithio canolbwyntio ar un arall ddiwedd y flwyddyn. Felly, mae pethau’n digwydd, ond, wrth gwrs, mae yna wastad prinder arian. Dwi yn gweld hwn fel cyfle i ni lansio a sicrhau bod y byd yn gwybod amdanom ni.
Rŷch chi hefyd wedi sôn am ba mor—ydyn ni mewn sefyllfa dda, fel gwlad? Pa mor hyderus dŷn ni, a ble dŷn ni, yn ieithyddol? Wel, yn ddiweddar, gwnes i wrando ar ddyn yn canu ym Methesda—dim ond 100 o bobl yn y byd sy’n siarad ei iaith ef, felly, pan ŷch chi’n ystyried pa mor fregus yw rhai o’r ieithoedd eraill, dwi yn meddwl bod rhywbeth gyda ni i gynnig. Felly, dwi yn meddwl bod hwn yn gyfle i ni roi nôl i’r byd, a dyna sy’n bwysig i fi—ein bod ni’n gallu cynnig rhywbeth i’r byd, a’n bod ni wedi cael adfywiad, ein bod ni’n keen ofnadwy i weld y symudiad yma tuag at filiwn o siaradwyr. Wel, dyw hwnna ddim yn rhywbeth mae lot o lefydd eraill yn ystyried yn bosibl. Mae’r ffaith ein bod ni’n cymryd camau i wireddu hynny’n rhywbeth rŷn ni’n gobeithio y gallwn ni estyn a rhannu gyda’r byd.
O ran croesawu pobl i Gymru, dwi yn meddwl ei bod hi’n bwysig—y ffaith ein bod ni eisiau gweld Cymraeg yn bod yn fater sy’n gynhwysol y mae pob un yn gallu ymwneud â hi. Rŷn ni wedi—. Wrth gwrs, mae gyda ni canolfannau trochi i bobl sy’n dod i mewn i’r wlad i sicrhau eu bod nhw’n gallu ymgymryd â dysgu’r iaith, ac rŷn ni wedi cael prosiectau i dargedu rhai ardaloedd, yn arbennig lle mae yna bobl liw yn byw. Mae Caerdydd wedi gwneud lot o waith ar hyn; mae yna ysgol newydd, fel rŷch chi’n gwybod, yn y bae, a hefyd yng Nghasnewydd; mae lot o waith wedi’i wneud yn y ddwy ardal yna, yn arbennig.
Dŷn ni ddim wedi ystyried gwneud sign language yn ystod y flwyddyn yma, ond beth sydd yn bwysig, dwi’n meddwl, o ran y dechnoleg a’r cynllun technoleg, yw bod pobl yn deall bod yna gyfle iddyn nhw hefyd ein helpu ni gyda datblygiad technoleg yn Gymraeg. Mae’n bwysig bod pobl yn ymgymryd â ac yn cymryd mantais o’r ffaith eu bod nhw hefyd yn gallu rhoi’u llais nhw, achos mae’n rhaid inni adeiladu portffolio o bobl yn siarad fel ein bod ni’n gallu defnyddio technoleg lle rŷch chi’n siarad i mewn i beiriant a’u bod nhw’n deall beth rŷch chi’n ei ddweud ac yn gallu siarad nôl â chi. Mae hwnna’n fwy cymhleth lle mae yna iaith leiafrifol.
Mae’r ffaith ein bod ni’n wlad ddwyieithog yn unigryw, a dwi hefyd yn poeni am ieithoedd modern yn y cwricwlwm newydd, ond mae hwnna’n rhywbeth dwi’n gwybod bod Kirsty’n ystyried a bod global responsibility yn rhan ganolog o’r cynllun newydd yma.
Diolch yn fawr am eich datganiad chi. Fel arfer, mae’n rhaid imi ofyn faint o sylwedd sydd i’r geiriau sydd yn y datganiad. Gaf i eich atgoffa chi o rai o ddigwyddiadau diweddar y Llywodraeth yma o ran y Gymraeg? Ymyrraeth gan is-Weinidog ym mhroses gyflogaeth y Llyfrgell Genedlaethol, ble ceisiodd sicrhau na fyddai’r swydd yn mynd i siaradwr Cymraeg; sylwad absẃrd gennych chi, y Gweinidog dros y Gymraeg, a dwi’n dyfynnu, y byddai Cartrefi Cymunedol Gwynedd mewn perygl o ddisgrimineiddio pe byddan nhw’n rhoi’r Gymraeg fel sgil hanfodol ar gyfer eu swyddi—ymyrraeth a sylwadau sy’n ddilornus o’r Gymraeg, sydd hefyd yn mynd yn hollol groes i’ch strategaeth chi’ch hun o ran y Gymraeg yn y gweithlu, a sylwadau sy’n gwneud imi wrando ar eich datganiad chi heddiw efo pinsiad mawr iawn o halen. Ac rydych chi wedi sôn y prynhawn yma am bwysigrwydd canolfannau trochi, ond yn torri’r grant sydd i'w cynnal nhw, felly mae’r pinsiad o halen yma’n mynd yn fwy.
Dwi’n nodi bod tri amcan ar gyfer y Flwyddyn Ryngwladol ar gyfer Ieithoedd Brodorol, ac mai’r olaf o’r rhain ydy rhoi help i warchod hawliau siaradwyr yr ieithoedd hynny. Rydym ni’n hynod o lwcus yng Nghymru: cenedl fechan, ddi-wladwriaeth, ond mae gennym ni ddeddfwriaeth ar waith er mwyn gwneud yn union hynny, er mwyn diogelu’n hawliau ni—yn wahanol, yn anffodus, i’r sefyllfa efo ieithoedd lleiafrifol mewn llawer o wledydd ar draws y byd. Yn 2011, fe basiwyd Deddf arwyddocaol a phwysig dan arweiniad Plaid Cymru, a chyn-Aelod Cynulliad Arfon, Alun Ffred Jones. Mae'r Ddeddf honno'n rhoi statws swyddogol gydradd i'r Gymraeg yn y sector gyhoeddus, ond mae'r Llywodraeth wedi bod yn araf iawn yn gweithredu'r Ddeddf, ac, yn anffodus, mae llawer iawn o waith i'w wneud o ran gosod safonau. Does yna ddim esboniad o ran yr oedi gyda gosod safonau cymdeithasau tai, dŵr, cwmnïau post, bysiau, trenau, rheilffyrdd, nwy a thrydan, telathrebu.
Felly, hoffwn i ofyn heddiw, eto, ac yng ngoleuni amcan 3 y flwyddyn ryngwladol yma ynglŷn â hawliau: beth ydy'r amserlen ar gyfer symud ymlaen efo'r holl safonau sydd angen eu gosod? Mae hi'n wyth mlynedd ers pasio'r Ddeddf arloesol yma. Yng nghysgod Brexit a thwf y dde eithafol, mae angen i ni, yn fwy nag erioed, warchod hawliau ieithyddol pobl Cymru.
Ond, er mor angenrheidiol ydy hawliau unigolion i fyw drwy gyfrwng y Gymraeg, mae angen mynd ymhellach o lawer na hyn. Mae angen i'r Llywodraeth gydnabod yn llawn fod y Gymraeg yn iaith gymunedol, yn iaith fyw ddydd-i-ddydd mewn nifer o ardaloedd yng Nghymru, yn benodol yn y gorllewin, neu ardal Arfor, sef Môn, Gwynedd, Ceredigion, Caerfyrddin a rhai o'r ardaloedd cyfagos. Mae llawer o drigolion y bröydd hyn yn byw eu bywydau'n naturiol drwy'r Gymraeg, a dwi'n meddwl weithiau fod yna ddiffyg dealltwriaeth gwaelodol ynglŷn â hyn. Dim rhywbeth artiffisial ydy'r Gymraeg yn fy mywyd i yn Arfon, ond elfen gwbl naturiol o fy mywyd teuluol, cymdeithasol a chymunedol, ac mae angen pwyslais ar yr elfen gymunedol yma o'r Gymraeg yn ogystal â'r pwyslais ar hawliau unigol.
Mae ardal Arfor ymhlith y tlotaf yn Ewrop, ac mae pobl ifanc yn gorfod gadael yr ardal am waith, gan wanio'r Gymraeg a'r gwead cymunedol ieithyddol. Mi hoffwn i wybod beth ydy eich polisïau chi ynglŷn â datblygu nid yn unig y Gymraeg, ond yr economi, y gwasanaethau cyhoeddus, polisïau tai a chynllunio pwrpasol, trafnidiaeth ac yn y blaen. Beth ydy cynlluniau'ch Llywodraeth chi ar gyfer datblygu strategaeth benodol, ranbarthol ar gyfer yr ardal yma? 'Heb waith, heb iaith', meddai'r dywediad. Beth yn union ydy eich cynlluniau chi yn sgil hyn i gyd?
Ac, os ydym ni o ddifrif am gynnal y Gymraeg fel iaith gymunedol yn ein bröydd Cymraeg, mae angen i ni sicrhau bod yna swyddi o safon uchel yn y gorllewin fel bod pobl ifanc yn gallu aros yn eu cymunedau os maen nhw'n dymuno gwneud hynny, ac mi ellid dechrau drwy sbïo ar swyddi'r Llywodraeth ei hun. Felly, fy nghwestiwn olaf i ydy: pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i adleoli swyddi neu i leoli unrhyw swyddi newydd sydd yn dod yn uniongyrchol dan reolaeth eich Llywodraeth eich hun—pa gynlluniau sydd yna i leoli'r swyddi yma yn ardal Arfor? Arfor, nid Arfon.
Ie, roeddwn i'n mynd i ddweud: Arfon neu Arfor?
Arfor.
Arfor, ocê. Wel, diolch yn fawr. Mae'n rili drist. Dwi'n meddwl bod yna gyfle fan hyn i ni ymfalchïo, i ni ddweud yr hanes wrth y byd, a beth sy'n drist yw eich bod chi wedi trafod fan hyn y problemau sydd gyda ni, a dyma'r cyfle sydd gyda ni. Mae cymaint o bethau dylen ni fod yn browd ohono, dwi'n meddwl, ac mae e'n rili drist, unwaith eto, beth sydd wedi digwydd yw canolbwyntio ar y pethau negyddol.
Mae'n rhaid i ni roi rhywbeth nôl i'r byd. Dwi'n meddwl bod hwnna'n hollbwysig. Mae hawliau yn y wlad yma wedi gwella'n aruthrol dros y blynyddoedd. Mae hwnna'n rhywbeth gallwn ni ddangos i'r byd: beth sydd wedi ei newid. Mae'r safonau rŷn ni wedi dod mewn â nhw wedi gwneud gwahaniaeth mawr, ac rŷn ni wedi cael trafodaethau'n ddiweddar gyda'r fforymau rheoleiddio, er enghraifft, yn yr adran iechyd, i weld beth allwn ni ei wneud nawr, ac mae'r broses yna'n symud ymlaen. Dwi'n meddwl hefyd fod yna ymwybyddiaeth bod y Gymraeg yn iaith fyw yn ein hardaloedd, yn arbennig yn y gorllewin, ond mae'n rhaid i ni fynd cam ymhellach na diogelu'r Gymraeg yn y cymunedau hynny. Ein gweledigaeth ni yw i ehangu ac i gael miliwn o siaradwyr. Allwch chi ddim â gwneud hwnna jest wrth fod yn Arfor neu Arfon. Beth sy’n bwysig yw ein bod ni’n ehangu’r posibiliadau a sicrhau ein bod ni’n cael mwy o ddysgwyr ar draws ein gwlad.
A beth yw’n gobaith ni nawr, wrth gwrs—ac mae’n bwysig, rŷch chi’n iawn, ein bod ni—. Mae’n bwysig ein bod ni’n canolbwyntio ar yr economi. Dyw Brexit ddim yn mynd i helpu yn y cadarnleoedd Cymraeg eu hiaith. Dyw hwnna ddim yn mynd i helpu o gwbl, a dyna un o’r rhesymau pam byddwn ni'n cynnal symposiwm ar yr economi, yn edrych ar yr iaith Gymraeg, yn yr hydref yn y gorllewin.
A hefyd dwi yn meddwl ei fod e’n bwysig i bwysleisio bod lot o swyddi eisoes wedi symud mas o Gaerdydd. Mae Llandudno—mae lot mawr o siaradwyr Cymraeg yn ein hadrannau yn Llandudno; lot mawr wedi symud mas i Aberystwyth eisoes. Ac felly dwi yn meddwl ein bod ni, fel Llywodraeth, yn ceisio sicrhau ein bod ni’n lledaenu’r gwaith o reoleiddio Cymru ar draws y wlad.
Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Mae Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol yn rhoi'r cyfle inni nid yn unig i ddathlu'r ffaith bod dros 5,000 o ieithoedd brodorol yn cael eu siarad ledled y byd, ond hefyd i weithio gyda'n gilydd i arbed yr ieithoedd hynny rhag diflannu. Mae ffrind da i mi, Mohammed Sarul Islam, wedi gweithio'n ddiflino dros y ddegawd ddiwethaf i sicrhau cofeb mamiaith ryngwladol yma yng Nghaerdydd. Mae'r ffaith i'r gofeb gael ei gorffen yn ystod Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol yn deyrnged deilwng i waith caled Sarul ac aelodau eraill y pwyllgor. Mae Caerdydd yn ddinas amlieithog ac yn gartref teilwng i gofeb sy'n dathlu'r ieithoedd y byd. Ond, fel y mae'r Gweinidog yn ei nodi'n gwbl briodol, mae llawer o'r ieithoedd hynny o dan fygythiad. Yn ôl y prosiect ieithoedd sydd mewn perygl, mae 3,423 o ieithoedd yn wynebu difodiant, ac mae'r Gymraeg ar y rhestr sydd mewn perygl.
Gweinidog, pa drafodaethau y mae eich Llywodraeth chi wedi'u cael gyda'r Sefydliad Ieithoedd Brodorol ynghylch sut i rannu arferion gorau a chydweithio i ddiogelu'r holl ieithoedd sydd mewn perygl? Mae'r rhyngrwyd yn fygythiad i ieithoedd brodorol, ond mae technoleg hefyd yn allweddol i ddiogelu ieithoedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Gweinidog, mae llawer o brosiectau ffynhonnell agored yn bodoli i sicrhau, o system weithredu i gleient e-bost, bod eich dewis iaith yn cael ei gefnogi. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod y sector cyhoeddus yn gwneud mwy o ddefnydd o feddalwedd o'r fath? Mae technoleg ffynhonnell agored hefyd yn arwain y ffordd o ran sicrhau cymorth gan gynorthwywyr digidol mewn ieithoedd brodorol. Gweinidog, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda sefydliad Mozilla am y prosiect Llais Cyffredin a sut y gall eich Llywodraeth gyfrannu at dwf y Gymraeg yn y maes digidol?
Ac, yn olaf, Gweinidog, un o'r bygythiadau mwyaf i ieithoedd brodorol yw bod pobl frodorol yn colli tir. Mae newid yn yr hinsawdd a lefelau'r môr yn codi yn bygwth pobloedd brodorol ym mhobman. Yn y degawdau nesaf, gallai mudo oherwydd yr hinsawdd arwain at golli llawer o ieithoedd. Gweinidog, beth mae eich Llywodraeth chi yn ei wneud i sicrhau nad yw ein heffaith ar yr hinsawdd fyd-eang yn bygwth pobloedd brodorol ledled y byd? Diolch.
Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu bod rhai o'r geiriau a ddywedwyd yn y fan honno i'w croesawu'n fawr: y ffaith bod sensitifrwydd tuag at ieithoedd brodorol, bod dealltwriaeth o'r ffaith bod newid yn yr hinsawdd yn mynd i effeithio ar leoedd yn y byd ac y bydd yna bwysau a, mewn gwirionedd, bod hynny'n debygol o arwain at ragor o symud. Y broblem yw bod nifer fawr o aelodau'r blaid y mae hi bellach yn perthyn iddi mewn gwirionedd yn gwrthod y pethau hyn, a'u bod mewn gwirionedd wedi bod mewn sefyllfa i hybu a gwaethygu'r tensiynau, yn enwedig yn erbyn pobl sy'n siarad ieithoedd lleiafrifol. Ac mae'n wirioneddol drist, oherwydd rwy'n gwybod nad yw'r Aelod ei hun yn y categori hwnnw, ond mae llawer iawn o bobl yn y blaid honno sy'n arddel y safbwynt hwnnw, ac mae'n wirioneddol drist gweld y sefyllfa honno. Rwy'n credu bod yn rhaid cael dealltwriaeth, fel plaid wleidyddol—fel plaid wleidyddol—nad dyna'r farn a rennir gan lawer iawn o bobl sydd erbyn hyn yn dilyn yr arweiniad yr ydym yn ei weld gan Nigel Farage.
O ran cynllun technoleg y Gymraeg, rwy'n falch iawn eich bod yn siarad am dechnoleg ffynhonnell agored. Mae'n agwedd bwysig iawn yr ydym ni'n ceisio'i datblygu mewn gwirionedd. Rydym ni'n cydweithio'n agos iawn â Mozilla, y sefydliad, wrth ddatblygu'r prosiect Llais Cyffredin hwn. Felly, os yw unrhyw un yn siarad Cymraeg, yna byddem yn gofyn i chi ychwanegu pum brawddeg o'ch llais i'r rhwydwaith cymhleth yr ydym ni'n ceisio ei ddatblygu fel bod gennym ni sylfaen o siaradwyr i'w defnyddio i wneud yn siŵr ein bod yn gallu defnyddio'r dechnoleg llais hon yn y dyfodol.
Diolch i'r Gweinidog.