Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 22 Mai 2019.
Seiliwyd economi Cymru ar ôl y rhyfel ar amaethyddiaeth, glo a gweithgynhyrchu a phrosesu metel i gychwyn. Yna, gwelsom dwf gweithgynhyrchu ysgafn ac erbyn diwedd y 1980au, roedd Cymru’n denu mwy o fuddsoddiad uniongyrchol tramor nag unrhyw ranbarth neu genedl yn y DU. Llifai hyn i mewn i weithgynhyrchu ysgafn yn arbennig.
Roedd cyfuniad o agosrwydd at farchnadoedd, llafur rhad, a chymorth uniongyrchol gan Awdurdod Datblygu Cymru yn aml, yn golygu bod cyflenwyr a oedd yn awyddus i sefydlu ffatrïoedd newydd yn gweld bod Cymru'n cynnig pecyn deniadol ar gyfer buddsoddi. Yn anffodus. caeodd llawer o'r ffatrïoedd cangen hyn pan grebachodd y marchnadoedd neu pan ddaeth hi’n rhatach iddynt adleoli mewn man arall. Symudodd ffatrïoedd cyfan o Gymru wrth i wneuthurwyr symud i leoliadau rhatach. Caeodd 171 o ffatrïoedd rhwng 1998 a 2008, gan arwain at golli cyfanswm o 31,000 o swyddi.
Byddai'n amlwg yn gamgymeriad i Gymru ganolbwyntio’n llwyr ar ddenu llif newydd o fuddsoddiadau tramor. Efallai y caiff rhai eu denu, wrth gwrs, ond mae'n annhebygol iawn y gellid neu y dylid denu unrhyw beth yn agos at oes aur yr 1980au a'r 1990au—ac mae ymdrechion i wneud hynny naill ai drwy ostwng cyflogau neu gyfyngu ar gyfreithiau amgylcheddol neu ddiogelwch yn ras na all Cymru gystadlu ynddi, ac ni chredaf y dylai geisio gwneud hynny.
Mae defnyddio'r gofrestr fusnes ddiweddaraf ac arolygon cyflogaeth a welais yn dangos bod economi Cymru yn cyflogi llawer llai o bobl yn y meysydd canlynol a gategoreiddiwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol: gwybodaeth a chyfathrebu; cyllid ac yswiriant; proffesiynol, gwyddonol a thechnegol; a gweinyddiaeth busnesau, gan gynnwys gwasanaethau cymorth. Pe baech yn gwneud rhestr o'r meysydd a dalai fwyaf yn yr economi, credaf y byddai gennych y rhan fwyaf o'r rheini arni. Mae yna wendidau strwythurol yn economi Cymru—pe na bai, byddai ein gwerth ychwanegol gros yn uwch. Mae'n rhaid cyrraedd atebion i broblemau economaidd Cymru. Yn gyntaf, mae angen gwella sgiliau adran yr economi. Ni allwn gael Kancoat arall, lle na all y rhai sy'n asesu'r cynllun weld nad yw cotio lliw yn weithgynhyrchu datblygedig, ac nad ydynt yn gwybod bod dwy ffatri cotio lliw wedi methu o'r blaen yn ne Cymru a bod Shotton yn cotio lliw ar ddur.
Yn ail, mae angen i ni ddysgu o'r hyn a weithiai’n flaenorol ac a weithiai'n dda. Yn y 1990au, profodd Cymru oes aur mewn cynhyrchu animeiddio. Roedd S4C yn rhan annatod o helpu i gynhyrchu nifer o gyfresi animeiddio poblogaidd, y soniais amdanynt ychydig wythnosau yn ôl: SuperTed, Sam Tân, Gogs. Roedd proffil uchel i’r rhain a chawsant eu cyfieithu i'r Saesneg. Enillodd S4C enw da yn gyflym, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, am eu rhaglenni animeiddio masnachol lwyddiannus a oedd yn ennill gwobrau. Wrth i S4C ehangu, daeth llu o gymeriadau poblogaidd eraill: Wil Cwac Cwac, Slici a Slac, Sgerbyde. Dyma enghraifft o lle mae arian a roddir i mewn yn ochr y galw yn cynhyrchu diwydiant newydd, ond mae angen galw cychwynnol. Yn rhy aml o lawer, byddwn yn canolbwyntio'n llwyr ar roi arian i mewn yn yr ochr gyflenwi ac yna rydym yn gorgyflenwi—mae angen i’r galw fod yno hefyd.
Ar fater pellach: mae'n rhaid ei bod yn ymddangos braidd yn rhyfedd i chi i gyd fod y gêm fideo sy'n gwerthu fwyaf yn y byd, Grand Theft Auto, wedi dechrau ei hoes yn Dundee, ond mae yna resymeg economaidd i'r ffordd y mae’r ddinas yn yr Alban, ers 20 mlynedd, wedi dod yn glwstwr nodedig ar gyfer diwydiant gemau fideo'r byd. Daeth Prifysgol Abertay yn Dundee o hyd i gefnogaeth wleidyddol ac ariannol i sefydlu adran a gynigai’r radd gyntaf yn y byd mewn gemau cyfrifiadurol yn 1997. Erbyn hyn mae yna nifer o raddau cysylltiedig, gan gynnwys dylunio gemau a rheoli cynhyrchu. Mae yna ddiwydiant gemau cyfrifiadurol mawr yn Dundee hefyd. A yw’n syndod i unrhyw un—rhoddwyd arian i mewn, roedd yno ar y dechrau—fod ganddynt ddiwydiant llwyddiannus iawn bellach mewn maes sy'n talu'n dda ac sy'n tyfu? Mae hyn yn amlinellu tri phwynt rwy’n parhau i'w gwneud—ac mae'n debyg y byddaf yn eu gwneud eto yr adeg hon y flwyddyn nesaf—yn gyntaf, gall prifysgol fod yn sbardun i'r economi a'r economi leol; yn ail, mae diwydiannau'n tueddu i glystyru; ac yn drydydd, mae daearyddiaeth yn llai pwysig nag argaeledd sgiliau. Os ydych chi byth yn dewis lle i leoli—heb amarch i Dundee, ond nid yw ar ben rhestr unrhyw un o'r ardaloedd mwyaf canolog yn ddaearyddol.
Yn drydydd, fel Gordon Brown, rwy'n credu yn y ddamcaniaeth twf mewndarddol sy'n datgan bod buddsoddiad mewn cyfalaf dynol, arloesedd a gwybodaeth yn cyfrannu'n sylweddol at dwf economaidd. Mae'r ddamcaniaeth hefyd yn canolbwyntio ar elfennau allanol cadarnhaol ac effeithiau gorlif economi sy'n seiliedig ar wybodaeth, a fydd yn arwain at dwf economaidd. Yn bennaf, mae'r ddamcaniaeth dwf yn dangos bod cyfraddau twf hirdymor economi yn dibynnu ar fesurau polisi—er enghraifft, mae cymorthdaliadau ar gyfer ymchwil a datblygu neu addysg yn cynyddu cyfradd twf, gan ddefnyddio'r model twf mewndarddol, drwy gynyddu'r cymhelliant i arloesi. A dyna beth sydd ar goll gennym, mewn gwirionedd. Rydym yn siarad o’i gwmpas, ond nid oes gennym ddigon o swyddi ar gyflogau uchel, nid oes gennym ddigon o arloesi ac nid oes gennym glystyrau mewn diwydiannau sy'n talu'n dda. Os gallwn dderbyn beth yw’r broblem, rhaid i ni ganfod wedyn sut yr awn i'r afael â hi.
Rwyf wedi ceisio amlinellu’n fyr rai ffyrdd o wella economi Cymru, ac wrth gwrs, rwyf ar gael i drafod y rhain yn fanylach gyda Llywodraeth Cymru neu unrhyw un arall sydd am siarad â mi amdano, ond rhaid i ni fod yn arloeswyr mewn gwirionedd—rhaid i ni fynd i mewn i rannau gwerth uchel o’r economi. Nid ydych yn mynd i fod yn gyfoethog trwy gael llawer o gyflogaeth ar gyflogau isel. Gallwn wthio ein cyfradd ddiweithdra i lawr, gallwn gynyddu ein cyfradd gyflogaeth, ond nid yw'n gwneud llawer i’n gwerth ychwanegol gros nes i ni ddechrau cael rhywfaint o swyddi ar gyflogau uchel i mewn yno.