Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 22 Mai 2019.
Er ein bod yn cydnabod y bu rhywfaint o gynnydd yn ystod y Pumed Cynulliad, mae hefyd yn wir dweud nad yw'r 20 mlynedd diwethaf o reolaeth Lafur wedi cyflawni ar yr economi yn y ffordd y dylai'r rhai a bleidleisiodd drostynt fod wedi disgwyl. A pheidiwch â gadael i ni anghofio bod Llywodraeth Lafur yn San Steffan, yn ogystal â Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru, am 13 o’r 20 mlynedd hynny.
Er i ni dderbyn biliynau o bunnoedd o arian yr UE, fel y’i gelwir—sef ein harian ni'n dychwelyd i ni gydag amodau wedi’u cysylltu wrtho wrth gwrs—mae'r ffaith ein bod yn dal i fod â 25 y cant a mwy o'n poblogaeth yn byw mewn tlodi yn sicr yn ddangosydd dramatig fod strategaethau economaidd blaenorol Llywodraeth Cymru wedi methu i raddau helaeth. Y broblem, wrth gwrs, yw bod y rhan fwyaf o'r arian wedi mynd i'r sector cyhoeddus. Ac yn y sector cyhoeddus y gwelsom y cynnydd mwyaf mewn cyflogaeth. Er bod y swyddi ychwanegol hyn wedi bod yn angenrheidiol mewn rhai achosion, ac yn hanfodol yn wir, ceir llawer ohonynt nad ydynt yn ddim mwy nag ehangu biwrocratiaeth a chwangos diangen. Os yw Cymru am wella ei pherfformiad ar ehangu'r sector preifat a dangosyddion economaidd fel cynhyrchiant, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar ehangu'r sector preifat yng Nghymru. Ni allwn fforddio 20 mlynedd arall o brosiectau aflwyddiannus fel Cymunedau yn Gyntaf, a lyncodd dros £400 miliwn yn ei 18 mlynedd o fodolaeth, heb fawr ddim effaith ar economi Cymru os o gwbl. Pe bai £1 filiwn wedi’i roi i 400 o entrepreneuriaid profedig gyda’r gwiriadau ac archwiliadau angenrheidiol, ni all rhywun ond dyfalu faint o swyddi go iawn y gellid bod wedi’u creu yn ystod y cyfnod hwnnw.
Wrth gwrs, ceir arwyddion gwirioneddol fod y Llywodraeth yn symud i'r cyfeiriad iawn—pethau fel dod ag Aston Martin i Gymru a datganiad Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar ei ymdrechion i sefydlu'r ganolfan fyd-eang ar gyfer rhagoriaeth rheilffyrdd. Ond mae lle enfawr i wella. Rydym yn dal yn agos at y gwaelod o ran ein sector ymchwil a datblygu o gymharu â gwledydd a rhanbarthau eraill y DU. Tynnwyd sylw at y ffigurau gan Mark yn gynharach. Ymchwil a datblygu yw'r sbardun ar gyfer ehangu masnachol ac mae angen i'r Llywodraeth Lafur gynyddu ei chyllid yn ddramatig yn y maes hollbwysig hwn ar gyfer twf economaidd. Edrychwn ymlaen at newid sylweddol yn ymrwymiad y Llywodraeth Lafur i ehangu'r sector preifat yng Nghymru.