Perchnogion Ail Gartrefi

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 22 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 1:40, 22 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae'n gyfreithlon cael ail gartref. Fodd bynnag, nid yw ond yn deg eich bod yn gwneud cyfraniad i'r gymuned rydych ynddi, yn enwedig mewn cyfnod pan fo cyllid a thai yn brin. Mae angen i ni sicrhau hefyd nad ydym yn creu cymhellion gwrthnysig i bobl ailddynodi anheddau domestig. Felly, credaf ei bod yn bryd cael golwg gynhwysfawr ar hyn a gweld sut y gallwn gael polisi mwy cyson sy'n rhoi'r negeseuon cywir i bobl, os ydynt yn ddigon breintiedig i gael ail gartref, fod rhwymedigaethau ynghlwm wrth hynny.