Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 22 Mai 2019.
Hoffwn roi sicrwydd i David Melding fod hyn yn rhywbeth rydym yn edrych yn fanwl iawn arno. Wrth gwrs, Cymru yw'r unig ran o'r DU sydd wedi cyflwyno rheolau i ganiatáu i awdurdodau lleol godi'r premiymau hynny ar ail gartrefi. Rydym yn casglu data ar hyn o bryd i archwilio i ba raddau y mae awdurdodau lleol wedi codi premiymau neu weithredu disgowntiau, gan y gallant wneud hynny hefyd mewn perthynas ag ail gartrefi. Wrth gwrs, cafodd y pwerau disgresiwn hynny eu cyflwyno er mwyn helpu awdurdodau lleol i ddod ag eiddo nad oes digon o ddefnydd arno yn ôl i ddefnydd a mynd i'r afael â materion cyflenwad tai. Nid oeddent o reidrwydd yn bŵer codi refeniw, ond serch hynny, croesewir unrhyw refeniw a godir gan awdurdodau lleol, yn amlwg.