Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 22 Mai 2019.
Mae gan CThEM set glir o reolau i sicrhau nad yw cartrefi gwyliau ond yn elwa o'u triniaeth fwy ffafriol o ran trethi pan gânt eu defnyddio o ddifrif fel busnesau, a dywed eu rheolau, sydd wedi'u profi, fod yn rhaid i'r cartref fod ar gael i'w osod am 210 diwrnod y flwyddyn ac wedi'i osod am o leiaf 105 diwrnod. A fyddai o unrhyw werth pe bai swyddogion o leiaf yn ystyried a ellid defnyddio'r diffiniad hwnnw i leihau'r osgoi trethi sy'n amlwg wedi bod yn digwydd yn y maes hwn?