Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 22 Mai 2019.
Diolch, Llywydd. Mi wnaeth Deddf yr Alban 2016 baratoi'r ffordd at ddatganoli'r cyfrifoldeb dros 11 o fudd-daliadau i Lywodraeth yr Alban. Mae asiantaeth lles newydd wedi cael ei sefydlu yn yr Alban erbyn hyn. Mi wnaeth adroddiad diweddar gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru adrodd y gallai datganoli elfennau o'r wladwriaeth les i Gymru ar yr un model â hynny rhoi hwb o ryw £200 miliwn i'r pwrs cyhoeddus yng Nghymru. Mae o'n swm sylweddol iawn. Ydy'r Gweinidog yn cytuno efo'r dadansoddiad hwnnw gan y ganolfan llywodraethiant, ac os ydy hi, onid ydy hi felly yn flaenoriaeth i fwrw ymlaen i chwilio am y pwerau yma ar fyrder?