1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 22 Mai 2019.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Lywydd. Weinidog, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am adnoddau a chynllun gwaith uned Dirnad Economi Cymru sydd bellach yn rhan o Fanc Datblygu Cymru, a fydd, wrth gwrs, yn chwarae rhan mewn unrhyw gynigion treth yn y dyfodol?
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Yn anffodus, mae Banc Datblygu Cymru yn rhan o bortffolio Gweinidog yr economi, felly ni allaf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi heddiw, ond byddaf yn bendant yn sicrhau ei bod ar gael cyn gynted â phosibl.
Wel, Weinidog, mae'n sicr y bydd gan uned Dirnad Economi Cymru rôl i'w chwarae mewn unrhyw gynigion treth yn y dyfodol, ac felly mae'r uned hon yn bwysig i'ch portffolio chi hefyd. Mae angen gwybodaeth economaidd effeithiol er mwyn rhoi sylfaen briodol i wneuthurwyr polisi cyhoeddus er mwyn sicrhau bod mesurau polisi a weithredir gan y Llywodraeth wedi'u targedu, yn effeithiol a bod pobl yn eu deall. Yn ddelfrydol, dylid cwblhau'r gweithgarwch hwn o dan un to, a chan gorff arbenigol. Mae Cymru wedi bod yn brin o'r gallu hwn ers blynyddoedd lawer ac mae'n dal i fod braidd yn anffodus ei bod wedi cymryd cymaint o amser i roi'r capasiti hwn ar waith o'r diwedd. Fodd bynnag, bydd uned newydd Dirnad Economi Cymru ym Manc Datblygu Cymru yn cwblhau gwaith pwysig yn awr ar ddadansoddi economi Cymru. Gan fod uned Dirnad Economi Cymru mor hanfodol ar gyfer polisi treth, ac felly ar gyfer eich briff yn ei gyfanrwydd, Weinidog, a gaf fi ofyn i chi eto felly beth yw cynllun gwaith yr uned hon yn y dyfodol, a sut rydych yn rhagweld y bydd yr uned newydd hon yn effeithio ar eich cynigion eich hun ar gyfer trethi yng Nghymru yn y dyfodol?
Wel, rwyf wedi cael rhai trafodaethau ynglŷn ag effaith gwaith yr uned ar edrych ymlaen a nodi busnesau sy'n wynebu risg bosibl, felly mae hyn yn rhywbeth y mae'n ei fonitro'n rheolaidd o ran cynghori Llywodraeth Cymru ar y mathau o fuddsoddiadau y mae'n awyddus i'w gwneud. Cefais y trafodaethau hynny yng nghyd-destun caffael, sy'n golygu sicrhau, pan fo Llywodraeth Cymru yn caffael, ei bod yn gwneud hynny gyda gwybodaeth dda am gynaliadwyedd, mae'n debyg, y busnesau y mae'n ymgysylltu â hwy.
Weinidog, yr hyn sy'n hanfodol, wrth gwrs, yw bod Cymru'n defnyddio'r pwerau treth newydd sydd ar gael iddi i hybu economi Cymru, a chredaf fod datganoli pwerau treth incwm, er enghraifft, yn gyfle newydd cyffrous i gefnogi a thyfu economi Cymru. Felly, pa waith ymchwil neu fodelu y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i asesu effaith y newidiadau i gyfraddau treth incwm yma yng Nghymru ar refeniw treth, ac yn wir, ar berfformiad economi Cymru yn ei chyfanrwydd. Ac efallai, yn y dyfodol, y bydd hyn yn rhywbeth y gallai uned Dirnad Economi Cymru fod yn rhan ohono hefyd.
Diolch am godi hynny. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwaith sylweddol, ar y cyd â'r prif economegydd a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, ar fapio ein sylfaen drethu bresennol ac yna edrych ar sut y gallai ein sylfaen drethu yng Nghymru fod yn y dyfodol pe baem yn cyflawni gwahanol ymyriadau. Mae gwahanol ddewisiadau y gallwn eu gwneud o ran cyfraddau treth incwm Cymru, ond hefyd o ran tyfu ein sylfaen drethu, mae angen i ni edrych ar sut y defnyddiwn y dulliau sydd ar gael inni yn yr adran dai, er enghraifft, ym maes addysg, a sut i ddenu'r math cywir o bobl i Gymru a fydd yn gallu gwneud cyfraniad da a chryf i'n heconomi drwy dyfu ein sylfaen drethu yma.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Mi wnaeth Deddf yr Alban 2016 baratoi'r ffordd at ddatganoli'r cyfrifoldeb dros 11 o fudd-daliadau i Lywodraeth yr Alban. Mae asiantaeth lles newydd wedi cael ei sefydlu yn yr Alban erbyn hyn. Mi wnaeth adroddiad diweddar gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru adrodd y gallai datganoli elfennau o'r wladwriaeth les i Gymru ar yr un model â hynny rhoi hwb o ryw £200 miliwn i'r pwrs cyhoeddus yng Nghymru. Mae o'n swm sylweddol iawn. Ydy'r Gweinidog yn cytuno efo'r dadansoddiad hwnnw gan y ganolfan llywodraethiant, ac os ydy hi, onid ydy hi felly yn flaenoriaeth i fwrw ymlaen i chwilio am y pwerau yma ar fyrder?
Wel, fel y nododd y Prif Weinidog yn ei lythyr at Leanne Wood yn gynharach y mis hwn, roedd yn awyddus i sicrhau y caiff yr adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ei ystyried fel rhan o'r gwaith rydym eisoes wedi'i amlinellu yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Chwefror, mewn perthynas â'r broses o ystyried yr achos dros ddatganoli'r gwaith o weinyddu rhannau o'r system les. Wrth gwrs, mae'r Prif Weinidog wedi cytuno y bydd asesiad o'r achos dros newid gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn garreg filltir gynnar yn y broses hon, a byddant yn gwneud hynny fel rhan o'u rhaglen waith ar gyfer 2019-20. Ac mae wedi gofyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gyfarfod â Leanne Wood yn ei rôl fel llefarydd, a deallaf fod y cyfarfod hwnnw wedi'i drefnu ar gyfer y mis nesaf.
Ac yn sicr ar ôl blynyddoedd o fy mhlaid yn ymgyrchu dros ddatganoli'r gwaith o weinyddu lles, roeddwn yn falch o glywed synau cadarnhaol gan y Llywodraeth, ac rwy'n falch ein bod ar bwynt lle mae hyn yn cael ei ystyried. Ond y gwir yw bod hwn yn ddewis amlwg, yn enwedig pan fo adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi dweud yn glir fod elfennau o les y gallwch eu rhagweld yn ddiogel, na fydd amrywiad, neu ormod o amrywiad, yn y blynyddoedd i ddod, lle gallwn ddweud yn hyderus iawn nad oes risg wirioneddol i bwrs y wlad yng Nghymru. Felly, unwaith eto, efallai fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu aros am adroddiad gan bwyllgor yn y Cynulliad hwn, ond wrth gwrs, rydym wedi cael dau adroddiad pwyllgor eisoes sydd wedi awgrymu y dylem symud yn ein blaenau tuag at ddatganoli lles. Pam nad yw'r Llywodraeth wedi gallu hyd yn oed ystyried hyd at y pwynt hwn, a pham y dylem gredu eich bod yn barod yn awr, pan nad ydych wedi bod yn barod yn y gorffennol, i gymryd y cam hynod synhwyrol hwn y dengys y dystiolaeth yn gwbl glir bellach fod modd i ni ei wneud er mwyn diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed yng Nghymru?
Yn amlwg, byddem yn awyddus i fabwysiadu ymagwedd sy'n seiliedig ar dystiolaeth tuag at y mater hwn, felly po fwyaf y bydd y sylfaen dystiolaeth yn tyfu, y mwyaf y bydd yn ein helpu i benderfynu ar y ffordd ymlaen. Ond credaf ei bod yn deg dweud, fel y casgla'r papur y cyfeiriwch ato, fod yr ansicrwydd parhaus ar y cam cymharol gynnar hwn o'r broses o ystyried y budd y gallai datganoli budd-daliadau ei ddarparu yn golygu y bydd y syniad yn cael ei drin gyda phryder y gellir ei gyfiawnhau. Credaf ei bod yn rhesymol trin y mater hwn yn ofalus ac yn wybodus, gan y ceir risgiau mawr o bosibl i Lywodraeth Cymru o fabwysiadu cyfrifoldeb am wahanol fudd-daliadau.
Pryder a gofal, ie, ond rydym yn gweld tystiolaeth sy'n gwbl glir bellach y gallai gwneud hyn arwain at warged o £200 miliwn i bwrs Cymru, ac mae hwnnw'n £200 miliwn y gellir ei ddefnyddio i liniaru effeithiau gwaethaf cyni, sydd wedi ei orfodi gan y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol cyn hynny yn San Steffan. Mae hwn yn gyfle nad yw Llywodraeth Cymru wedi manteisio arno hyd yma. Nawr, gyda'r dystiolaeth sydd gennym o'n blaenau, ac wrth i ni ddathlu 20 mlynedd o ddatganoli, onid yw'n bryd dweud bellach y byddwn mewn sefyllfa am yr 20 mlynedd nesaf, drwy ymgymryd â'r cyfrifoldebau hyn yn hyderus, i allu lliniaru a helpu'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yng Nghymru, fel y gwnânt yn yr Alban?
Wrth gwrs, nid yw hwn yn fater y gellir ei ddatrys yn gyflym iawn fel y credaf fod yr Aelod yn awgrymu, oherwydd wrth gwrs, mae'r adroddiad y cyfeirioch chi ato yn y cwestiwn cyntaf yn cyfeirio at yr hyn a elwir yn 'S-benefits', sef y set benodol o fudd-daliadau sydd wedi'u datganoli i'r Alban, ac mewn gwirionedd, megis dechrau eu taith i reoli ac integreiddio'r budd-daliadau hynny y mae Llywodraeth yr Alban. Felly, credaf fod yr awgrym fod hyn yn rhywbeth a allai ddigwydd dros nos bron â bod, yn afrealistig, ond mae'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru o ddifrif yn ei gylch ac edrychwn ymlaen at weithio'n gadarnhaol, gobeithio, gyda Phlaid Cymru a phobl eraill â buddiant wrth inni ddatblygu ein syniadau ar yr agenda hon.