Ardrethi Busnes

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 22 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 1:34, 22 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, gyda’r gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr â'n cyrchfannau siopa yng Nghymru yn parhau i achosi cur pen i fanwerthwyr, a chyda lefelau siopau gwag ymhlith yr uchaf yn y DU, mae arnom angen gweithredu ar frys. Gallaf weld eich bod yn dilyn Llywodraeth yr Alban ar nifer o bethau, ac mae ymgyrchwyr yn fy ardal wedi cysylltu â mi gydag enghraifft Llywodraeth yr Alban, sydd wedi cyflwyno cynnydd is na chwyddiant mewn ardrethi busnes. A yw Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod y diwydiant manwerthu yn wynebu cyfnod anodd a pha gymorth y byddwch yn ei ddarparu?