Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 22 Mai 2019.
Mae dros £1.7 biliwn yn cael ei fuddsoddi yn nhymor y Cynulliad hwn tuag at ein targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn cefnogi prosiectau tai modiwlar a thai parod drwy'r rhaglen dai arloesol dair blynedd o hyd a gwerth £90 miliwn, sydd ar hyn o bryd yn ei thrydedd blwyddyn ac ar y trywydd iawn i ddarparu 2,000 o gartrefi newydd.