1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 22 Mai 2019.
4. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i ariannu tai parod wrth ddyrannu cyllideb Llywodraeth Cymru? OAQ53918
Mae dros £1.7 biliwn yn cael ei fuddsoddi yn nhymor y Cynulliad hwn tuag at ein targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn cefnogi prosiectau tai modiwlar a thai parod drwy'r rhaglen dai arloesol dair blynedd o hyd a gwerth £90 miliwn, sydd ar hyn o bryd yn ei thrydedd blwyddyn ac ar y trywydd iawn i ddarparu 2,000 o gartrefi newydd.
Weinidog, efallai eich bod wedi gweld cyhoeddiad yr wythnos diwethaf y bydd cwmni adeiladu tai mwyaf Japan yn ymuno â marchnad dai’r DU ar unwaith ar ôl taro bargen gwerth miliynau o bunnoedd a fydd yn golygu y byddant yn gweithio gyda Homes England ac Urban Splash i ddarparu miloedd o gartrefi newydd ledled Lloegr. Mae'r cytundeb £90 miliwn yn cynnwys cyfanswm o £55 miliwn o fuddsoddiad newydd ym musnes datblygu tai’r cwmni adfywio Urban Splash. Ac mae'n rhoi hwb sylweddol i ddiwydiant tai modiwlar y DU a bydd yn helpu i gyflymu'r broses o gynhyrchu cartrefi newydd mawr eu hangen. Soniaf am hyn fel enghraifft o sut y gall y llywodraeth a'r sector preifat weithio gyda'i gilydd, a tybed a ydych yn edrych ar rai o'r ffyrdd arloesol hyn, ac efallai y gallech gael trafodaethau gyda'r darparwr o Japan hefyd, gan y credaf y byddai Cymru'n lle gwych i wneud busnes hefyd.
Wel, mae'r adolygiad o'r cyflenwad tai fforddiadwy, a gyhoeddais yn fy mhortffolio blaenorol, wedi adrodd yn ôl yn ddiweddar. Ac wrth gwrs, roedd yn cynnwys ffrwd waith benodol a edrychai ar botensial gweithgynhyrchu oddi ar y safle a dulliau adeiladu modern. Ac o ganlyniad i hynny, bydd ymgynghoriad ffurfiol yn cael ei gynnal cyn bo hir ar y strategaeth cartrefi rhent cymdeithasol a gynhyrchir oddi ar y safle, ac mae’r ymgynghoriad hwnnw wedi’i ddatblygu ar y cyd â sector tai Cymru a darparwyr masnachol. Bydd yn nodi’r disgwyliadau gweinidogol ar gyfer dylunio a safon cartrefi a weithgynhyrchwyd. Felly, rydym yn sicr yn awyddus i weithio ar draws y sectorau i hyrwyddo'r agenda benodol hon, gan ein bod yn credu y bydd y buddsoddiad a wnawn drwy ein rhaglen dai arloesol yn ein helpu i nodi dau neu dri math, o bosibl, o dai modiwlar a mathau o weithgynhyrchu oddi ar y safle a fydd yn gweithio orau ar gyfer y cyd-destun Cymreig, a bydd modd inni eu rhoi ar waith wedyn ar raddfa fawr oherwydd, yn amlwg, rydym am weld tai o'r fath yn cael eu prif ffrydio, yn hytrach na phrosiect newydd y mae pob un ohonom yn cyffroi yn ei gylch.
Nid mor bell â Japan, ond mewn gwirionedd yn fwy lleol o lawer, roeddwn yn falch iawn, David, o gael ymuno â'r Gweinidog Tai Julie James ddydd Llun ar ymweliad â phrosiect o dan arweiniad Cymoedd i’r Arfordir a'r arbenigwyr ar adeiladu modiwlar, Wernick Buildings, sy’n darparu wyth cartref modiwlar newydd yn Sarn a Thondu, ar ôl cael cyllid gan grant tai arloesol £90 miliwn Llywodraeth Cymru a chefnogaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r cartrefi hyn, fel y dywedodd David, yn cynnwys modiwlau unigol, a gynhyrchir ymlaen llaw yn ffatri Wernick yn ystâd ddiwydiannol Cynffig—felly, swyddi lleol, buddion economaidd lleol—cyn cael eu cydosod ar y safle i wneud tŷ cyflawn. Roedd yn cymryd cyn lleied â thair wythnos i gynhyrchu'r modiwlau hyn, a oedd yn cyrraedd ar y safle gyda pheiriannau cegin, gwres a thrydan wedi’u gosod yn barod, gan gyflymu’r broses o gyflenwi tai yn sylweddol.
Felly, fy nghwestiwn i'r Gweinidog cyllid yw hwn: gyda'r amseroedd cynhyrchu hynny 50 y cant yn gyflymach, sy’n lleihau costau, effeithiau amgylcheddol a tharfu ar drigolion lleol, sut y gallwn wneud hynny ar raddfa fwy, y tu hwnt i'r grantiau arloesi ac yn y blaen? Sut y gallwn wneud hynny ar raddfa lle daw hyn yn ffordd arferol, brif ffrwd o adeiladu tai?
Credaf fod rhan o'r ateb yn ymwneud â bwrw ymlaen ag argymhellion yr adolygiad tai fforddiadwy a'r gwaith rwyf newydd ei amlinellu i David Melding. Credaf fod gwaith i'w wneud o ran disgwyliadau defnyddwyr a dealltwriaeth defnyddwyr o fanteision dulliau modern o adeiladu, ac mae gwaith i’w wneud gyda'r diwydiant ariannol hefyd o ran rhoi'r sicrwydd sydd ei angen arnynt i allu rhoi morgeisi ar gyfer y mathau hyn o eiddo ac ati, a fydd yn sicr yn sefyll prawf amser.
Rydych wedi rhoi un enghraifft wych o'r hyn a gyflawnwyd drwy'r rhaglen dai arloesol. Llwyddais i ymweld â Wernick fy hun. Buaswn yn cynghori neu'n annog unrhyw gyd-Aelodau nad ydynt wedi gweld dulliau adeiladu modern ar waith i fynd yno i weld yr hyn sy’n cael ei gyflawni â’u llygaid eu hunain.
Ychydig o enghreifftiau eraill: mae gennym y cyfleuster gofal ychwanegol yn Aberaman sy'n cael ei adeiladu gan ddefnyddio cydrannau modiwlar a gynhyrchir yn y Drenewydd, ac yn amlwg, mae hynny’n arbed amser a chost o gymharu ag adeiladu traddodiadol ar y safle, ac mae'n caniatáu adeiladu drwy gydol y flwyddyn ac ati. Hefyd, mae gennym nifer o gynlluniau'n cael eu hadeiladu i'r Tŷ Solar, cartrefi fel gorsafoedd pŵer a safonau goddefol, ac maent oll yn darparu effeithlonrwydd ynni uchel iawn yn adeiladwaith yr adeilad. A hefyd, ceir integreiddio deallus rhwng ynni adnewyddadwy a gwres, gan leihau allyriadau carbon a lleihau biliau ynni eu deiliaid. Mae’r gwaith cyffrous hwn yn darparu cymaint o fanteision.