Llwybr Du Arfaethedig yr M4

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 22 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:10, 22 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Mae arnaf ofn na allaf gael fy nhynnu i mewn i ddyfalu ynglŷn ag ymateb y Prif Weinidog i'r penderfyniad sy'n rhaid iddo ei wneud ar ffordd liniaru'r M4 a’r hyn a allai ddigwydd ai peidio i gyllid ar ôl hynny. Mae'r Prif Weinidog wedi nodi y bydd yn gwneud y penderfyniad cyn bo hir. Gwn ei fod wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig a oedd yn nodi ei amserlen ar gyfer hynny, felly credaf y byddai trafodaethau pellach yn fwy priodol ar ryw adeg yn y dyfodol.