Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 22 Mai 2019.
Does bosibl, Weinidog, chi yw'r Gweinidog cyllid—. Rydym ni ar y meinciau hyn yn dymuno gweld ffordd liniaru’r M4 yn cael ei chyflawni cyn gynted â phosibl, ond os na fydd hynny'n digwydd, mae'n rhaid bod cynllun wrth gefn ar gael. Dylech chi, fel y Gweinidog cyllid, fod yn ymwybodol o beth yw eich cynllun wrth gefn.