Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 22 Mai 2019.
Weinidog, o ran mynd i'r afael â newid hinsawdd a hyrwyddo trafnidiaeth gynaliadwy, mae gan awdurdodau lleol rôl allweddol i'w chwarae, yn naturiol. O fewn y datganiad ar y gronfa trafnidiaeth leol yr wythnos diwethaf, dim ond ychydig o awdurdodau lleol a gafodd cyllid ar gyfer datblygu pwyntiau gwefru cyflym ar gyfer cerbydau trydan. Roeddwn i'n siomedig nad oedd unrhyw ddatblygiadau wedi'u henwi yng Nghastell-nedd Port Talbot, na chwaith ym Mhen-y-bont, yn fy rhanbarth i. A ydych chi'n cytuno bod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy, ar y cyd ag awdurdodau lleol, i ddatblygu rhwydwaith ledled Cymru? A sut ydych chi'n mynd i gyflawni hynny?