Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 22 Mai 2019.
Diolch. Wrth gwrs, mae gyda ni strategaeth mewn lle—cynlluniau strategol addysg Gymraeg, WESPs—ac mae hynny yn golygu ei bod hi'n ofynnol i bob un o'r awdurdodau lleol ar draws Cymru sicrhau eu bod nhw yn darparu mwy o gyfleoedd i bobl ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Dwi'n falch o ddweud bod ysgol newydd yn mynd i—ysgol gynradd newydd yn mynd i agor yn ardal Neath Port Talbot, ac, wrth gwrs, rŷn ni'n awyddus iawn i weld cynnydd. Wrth gwrs, bydd hynny nawr yn cael ei drafod pan fyddwn ni'n gweld y WESPs newydd. Felly, bydd y strategaeth yna yn cael ei chyflwyno yn ystod y dyddiau nesaf i edrych ar beth rŷn ni'n bwriadu ei wneud dros y tymor hir.