Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 22 Mai 2019.
Weinidog, ddeufis yn ôl, wnes i ofyn i chi am eich 20 swyddog Cymraeg i fusnes a'ch llinell cymorth cyfieithu. Ateboch eich bod yn—quote—meddwl bod angen i ni wneud mwy o farchnata yn y maes hwn, ac rwy'n cytuno 100 y cant, yn arbennig yn fy rhanbarth i. Mae'n flwyddyn ariannol newydd, felly faint o waith newydd ydy'r swyddogion hynny'n ei wneud a sawl ymholiad newydd ydy'r llinell cymorth wedi'i gael o ganlyniad i farchnata gwell?