Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 22 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:25, 22 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Weinidog, ceir consensws cyffredinol nad yw Cymru'n gwneud digon i ymgysylltu â Chymry alltud. Mae'n debygol fod degau o filiynau o bobl o dras Cymreig yn byw ledled y byd, gan gynnwys dros 10 miliwn o bobl yn yr Unol Daleithiau'n unig, yn ôl astudiaeth a wnaed yn 2006. Gallai ymgysylltu'n well â Chymry alltud gynyddu proffil Cymru, darparu arbenigedd, denu buddsoddiad a hybu allforion. Mae arweinwyr byd ar ymgysylltu â phoblogaethau alltud yn cynnwys menter Kea yn Seland Newydd a Global Scot yn yr Alban. Mae'r ddwy fenter yn manteisio ar arbenigedd cymunedau alltud er budd mentrau lleol. Weinidog, a fydd eich strategaeth 'Cymru a'r Byd’, a fydd yn cael ei chyhoeddi cyn bo hir, yn cynnwys cynllun gweithredu penodol i ymgysylltu'n well â Chymry alltud, ac a ydych yn cytuno â mi y dylai'r gwaith hwn gael ei arwain gan y Llywodraeth, gan weithio ar y cyd, wrth gwrs, â’r gwaith rhagorol a wneir ar hyn o bryd gan sefydliadau fel GlobalWelsh?