2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 22 Mai 2019.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Lywydd. Weinidog, ceir consensws cyffredinol nad yw Cymru'n gwneud digon i ymgysylltu â Chymry alltud. Mae'n debygol fod degau o filiynau o bobl o dras Cymreig yn byw ledled y byd, gan gynnwys dros 10 miliwn o bobl yn yr Unol Daleithiau'n unig, yn ôl astudiaeth a wnaed yn 2006. Gallai ymgysylltu'n well â Chymry alltud gynyddu proffil Cymru, darparu arbenigedd, denu buddsoddiad a hybu allforion. Mae arweinwyr byd ar ymgysylltu â phoblogaethau alltud yn cynnwys menter Kea yn Seland Newydd a Global Scot yn yr Alban. Mae'r ddwy fenter yn manteisio ar arbenigedd cymunedau alltud er budd mentrau lleol. Weinidog, a fydd eich strategaeth 'Cymru a'r Byd’, a fydd yn cael ei chyhoeddi cyn bo hir, yn cynnwys cynllun gweithredu penodol i ymgysylltu'n well â Chymry alltud, ac a ydych yn cytuno â mi y dylai'r gwaith hwn gael ei arwain gan y Llywodraeth, gan weithio ar y cyd, wrth gwrs, â’r gwaith rhagorol a wneir ar hyn o bryd gan sefydliadau fel GlobalWelsh?
Diolch. Credaf y ceir cydnabyddiaeth fod angen i ni wneud mwy i ymgysylltu â Chymry alltud. Credaf fod y ffigur o 10 miliwn yn eithaf uchelgeisiol, ac mae'n amheus a fyddai modd inni gyrraedd pob un o'r 10 miliwn o bobl sydd â rhyw fath o gysylltiad â Chymru. Ond credaf mai'r bobl orau i adrodd ein stori yw pobl sy’n teimlo angerdd dros ein cenedl. Rydym eisoes wedi edrych ar fodelau Seland Newydd a'r Alban, ac rydym wedi bod yn edrych ar yr hyn y maent yn ei wneud o ran arferion gorau. Felly, rydym yn edrych ar sut a beth yw'r model gorau mewn perthynas â'n gweithgareddau ninnau. Ond hefyd, gan gydnabod, mewn gwirionedd, fod eraill eisoes yn y maes hwn, mae angen i ni sicrhau nad ydym yn camu ar draed ein gilydd, fel ein bod yn parchu meysydd ein gilydd. Ond ceir meysydd clir lle bydd angen i Lywodraeth Cymru gymryd yr awenau, ac wrth gwrs, cyfeirir at hyn yn y strategaeth ryngwladol.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae ymgysylltu â Chymry alltud hefyd yn hollbwysig er mwyn hybu proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, fel y dywedoch. Mae memyn poblogaidd ar-lein ar hyn o bryd sy’n dangos cwpl o Americanwyr—nid wyf am geisio dynwared eu hacen, ond maent yn gofyn i'w ffrind a yw'n dod o Loegr neu Gymru, a phan fydd yn ateb, 'Dim un; rwy’n Gymro', maent yn edrych yn ddryslyd ac yn gofyn iddo, 'Felly, a yw'r fan honno yn Lloegr neu yn Iwerddon?' Nawr, jôc yw hi, ond mae'n adlewyrchu gwirionedd trist, sef nad yw Cymru mor adnabyddus â chenhedloedd eraill Ynysoedd Prydain. Does bosibl nad yw'n bryd i Gymru ddod yn un o'r is-wladwriaethau mwyaf adnabyddus yn y byd.
Mae'n rhaid i'ch strategaeth fyd-eang, felly, gynnwys cynllun i gynyddu presenoldeb Llywodraeth Cymru dramor, o’r 15 swyddfa bresennol mewn saith gwlad i lawer mwy na hynny. A wnewch chi ymrwymo i hyn? Gellid ystyried atebion deallus fel rhan o'r gwaith hwn, fel edrych ar gydleoli â Swyddfeydd Tramor a Chymanwlad, ac mae angen gwneud mwy hefyd i ddod â digwyddiadau mawr proffil uchel i Gymru. Roedd cynnal rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd yn llwyddiant diamod. Felly, a wnewch chi roi ystyriaeth ddifrifol i ddod â Gemau'r Gymanwlad i Gymru cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl, yn ogystal ag edrych ar ba ddigwyddiadau diwylliannol, diwydiannol a diplomyddol pwysig eraill y gellid eu denu yma?
Diolch. Credaf eich bod yn llygad eich lle fod angen i ni godi proffil Cymru yn rhyngwladol. Yr hyn sy'n amlwg yw ein bod yn cael ein hadnabod yn wahanol iawn mewn gwahanol farchnadoedd—felly, mewn ardaloedd lle ceir traddodiad rygbi sylweddol, rydym yn eithaf adnabyddus, ond ceir ardaloedd a rhannau eraill o'r byd lle nad oes gennym fawr ddim cefndir hanesyddol yn gyffredin, ac mae’r ardaloedd hynny’n llawer anos eu cyrraedd, a dyna pam, yn fy marn i, fod angen i ni ddychwelyd at Gymry alltud. Ond credaf hefyd fod angen inni gydnabod na fydd modd inni wneud popeth â chyllideb gyfyngedig. Felly, rhan o'r hyn y mae angen i ni ei wneud yn y strategaeth ryngwladol yw cydnabod y bydd angen i ni ganolbwyntio ar rai pethau ac na allwn wneud popeth. Wrth gwrs, mae gennym yr 20 swyddfa honno ledled y byd ar hyn o bryd. Mae eu hangen arnom i sicrhau eu bod yn llwyddo i godi'r proffil hwnnw, i ddenu mewnfuddsoddiad, ac wrth gwrs, ar hyn o bryd, mae’r mwyafrif helaeth ohonynt wedi'u cydleoli gyda'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad.
O ran digwyddiadau mawr, ydy, mae hyn bob amser yn gyfle i ni gael sylw byd-eang i’n cenedl fach. Mae hynny wedi gweithio'n dda iawn o ran pêl-droed yn y gorffennol. Wrth gwrs, os ydym am ddenu'r digwyddiadau hyn, mae angen cyllideb i gyd-fynd â hynny. Mae Gemau'r Gymanwlad yn gyllideb eithaf sylweddol, felly mae angen i ni edrych ar y cyfyngiadau sydd gennym yn yr oes hon o gyni, ond wrth gwrs, ni ddylem fod yn brin o uchelgais. Yn y cyfamser, credaf fod yn rhaid i ni sicrhau ein bod yn manteisio ar bob cyfle—er enghraifft, gyda phethau fel Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan—i ddefnyddio hynny fel platfform i ni fownsio oddi arno a sicrhau ein bod yn cael ein cydnabod ledled y byd, nid yn unig mewn perthynas â chwaraeon, ond defnyddio hynny hefyd fel cyfle i gynyddu mewnfuddsoddiad.
Hoffwn droi yn awr at gysylltiadau masnach, sydd, wrth gwrs, yn hanfodol er mwyn sicrhau iechyd economaidd Cymru, yn enwedig o ran allforion. Nodais gyda diddordeb eich taith ddiweddar i'r Unol Daleithiau, lle buoch yn dadlau’r achos dros fewnfuddsoddi drwy werthu Cymru fel lle deniadol i wneud busnes. Roedd hwnnw’n gam calonogol. Ond tybed a yw polisi Brexit eich Llywodraeth yn tanseilio'ch strategaeth adeiladu cysylltiadau masnach yn llwyr. Ar hyn o bryd, mae gennym y berthynas fasnachu orau bosibl gyda'r UE, gan gynnwys cytundebau masnach â gwledydd trydydd parti. Onid yw aros yn yr UE, neu o leiaf yn y farchnad sengl, yn gwbl hanfodol er mwyn osgoi dadwneud popeth rydych yn ceisio'i gyflawni gyda masnach? Ac os felly, sut rydych chi'n cyfiawnhau polisi eich Llywodraeth o fod eisiau gadael y ddau ohonynt?
Diolch. Wel, yn amlwg, mae gennym uchelgais i gynyddu mewnfuddsoddiad, ac mae hynny'n anodd pan nad yw buddsoddwyr yn gwybod beth fydd y berthynas honno â'n marchnad fwyaf—500 miliwn o bobl—yn y dyfodol. Felly, credaf y ceir toriad o ran buddsoddi, er, os edrychwch ar y ffigurau absoliwt, rydym mewn gwirionedd yn perfformio'n dda iawn ar hyn o bryd. Ond os edrychwch ar pam fod pobl wedi dod yma yn draddodiadol, yn aml iawn byddent yn dod yma fel safle lansio ar gyfer cael mynediad at y farchnad honno o 500 miliwn o bobl. Dyna pam rydym yn newid ein pwyslais i raddau ar hyn o bryd i ganolbwyntio'n iawn ar allforion, gan fod hynny'n sylweddol; rydym wedi gweld twf sylweddol yn y maes hwnnw dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Felly, rydym am wneud mwy yn y gofod hwnnw. Ond hefyd, yr hyn y byddwn yn ei wneud yw canolbwyntio ar y meysydd hynny sy'n ymwneud â mewnfuddsoddi na fydd Brexit yn effeithio arnynt mewn ffordd mor sylweddol. Felly, mae angen i ni ystyried hynny pan fyddwn yn edrych ble i ganolbwyntio yn y strategaeth ryngwladol newydd.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, a gaf fi ofyn i chi am y berthynas rhwng Cymru a Japan? Rydych eisoes wedi crybwyll y ffaith y bydd Cwpan Rygbi'r Byd yn cael ei gynnal yn nes ymlaen eleni. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd eisoes i baratoi ar gyfer ymgysylltu yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan?
Rydym eisoes wedi gwneud cryn dipyn o drefnu. Yn wir, yn ddiweddarach y prynhawn yma, byddaf yn cyfarfod â'n swyddog sydd wedi’u lleoli yn Japan, ac sydd wedi dod yn ôl i drafod yr union fater hwn. Credaf ei bod yn bwysig inni gydnabod y berthynas hirsefydlog rhwng Cymru a chwmnïau o Japan sydd wedi bod yn dod yma ac yn buddsoddi yma dros y 30 mlynedd diwethaf. Rydym am i'r berthynas honno barhau. Mae arnaf ofn fod Sony a Panasonic eisoes wedi symud eu pencadlys Ewropeaidd o'r Deyrnas Unedig. Felly, o ran y bobl sy'n dweud na fydd yn cael effaith, credaf fod angen i chi edrych ar hynny. Ond nid yw hynny'n golygu, mewn gwirionedd, fod y cysylltiadau sydd gennym yng Nghymru, lle ceir gwir hoffter a chariad tuag at Gymru yn Japan—mae’r gymdeithas hiraeth yn eithaf enwog. Ac un o'r pethau y byddwn yn eu gwneud, wrth gwrs, yw gweld beth y gallwn ei wneud—. Nid ydym yn aros tan gwpan y byd; rydym eisoes yn bownsio i mewn i'r marchnadoedd hynny yn awr. Gwn fod Lesley Griffiths yn gwneud llawer iawn o waith ar hyrwyddo bwyd a diod i Japan. Felly, mae'r cyfleoedd hynny yno, a'r hyn y byddwn yn ei wneud yn awr yw canfod beth yn union rydym yn ceisio'i gyflawni yn ystod cyfnod cwpan y byd, gan fod hwn yn safle lansio nid yn unig ar gyfer Japan, ond ar gyfer y gymuned Asiaidd ehangach hefyd yn fy marn i.
Rydych eisoes wedi sôn am y ffaith bod gennym y cyfleoedd hynny yn ddiweddarach eleni. Wrth gwrs, mae gennym Dymor Diwylliant y DU-Japan, sydd hefyd ar y ffordd, gan gynnwys digwyddiadau a gynhelir yma yng Nghymru. Un o'r pethau eraill sy'n gyffredin rhyngom a Japan wrth gwrs yw bod gan y ddwy wlad deuluoedd brenhinol, ac rwy'n siŵr y byddech yn awyddus i longyfarch yr Ymerawdwr Naruhito a'r Ymerodres Masako ar orseddiad diweddar yr Ymerawdwr ar yr Orsedd yr Eurflodyn, rhywbeth rydym ni ar feinciau'r Ceidwadwyr yn ei groesawu'n fawr iawn. A wnewch chi fanteisio ar bob cyfle i wneud yr hyn a allwch i weithio ar y cysylltiadau da sydd gennym eisoes â Japan, o ystyried y cysylltiadau hanesyddol hynny, o gofio'r digwyddiadau mawr sydd wedi digwydd yn Japan, a'r digwyddiadau chwaraeon a digwyddiadau eraill sydd ar y gorwel eleni? Gwyddom fod dros 6,500 o swyddi yng Nghymru yn ddibynnol ar fuddsoddiad o Japan, a gwyddom fod cwmnïau o Japan yn dal i fuddsoddi yn y DU, er gwaethaf peth o'r ansicrwydd ynghylch Brexit. Yn ddiweddar, gwelsom fuddsoddiad sylweddol gan Toyota a Nissan yn y DU. Ond ymddengys nad yw Cymru'n cael llawer o'r arian hwnnw. Felly, a allwch ddweud wrthym yn benodol, o ran strategaeth fasnachu â Japan, sut rydych chi'n mynd i sicrhau bod Cymru'n gwneud yn well na’r disgwyl, fel y gwnaeth o dan y Llywodraethau Ceidwadol yn y 1990au?
Diolch. Wel, roeddwn yn credu ei fod yn fawreddog iawn—gorseddiad yr Ymerawdwr—ond credaf mai'r hyn sy'n bwysig, fodd bynnag, yw ein bod yn edrych ar sut y gallwn adeiladu ar y cysylltiadau hynny, fel yr awgrymoch chi. Bydd llysgennad Japan yn dod i Gymru am gyfnod o ddeuddydd ym mis Mehefin. Byddaf yn cynnal derbyniad gydag ef ac yn croesawu llawer o'r cwmnïau o Japan sydd wedi ymgartrefu yma yng Nghymru. Credaf fod yn rhaid inni fod yn realistig o ran y cysylltiadau masnach. Mae'n rhaid i chi gofio bod yr UE newydd arwyddo cytundeb masnach â Japan a bydd gennym fynediad at y cytundeb masnach hwnnw cyhyd ag y byddwn yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Ond yr eiliad y byddwn yn gadael, yna bydd yn rhaid i ni ddechrau datblygu ein perthynas fasnach ein hunain, ac yn amlwg pan fyddwch negodi cytundeb masnach ar ran 60 miliwn o bobl, mae hynny'n wahanol iawn i drafod cytundeb masnach gyda 500 miliwn o bobl eraill. Felly, credaf fod yn rhaid i ni fod yn realistig, ond credaf fod y ffaith bod gennym draddodiad hirsefydlog a bod gennym y cysylltiadau agos sydd wedi datblygu dros flynyddoedd lawer—. Gwn fod rhai o bobl Japan yn hoff iawn o gastell Conwy yng ngogledd Cymru, er enghraifft. Felly, credaf fod cyfleoedd gwych i’w cael inni fanteisio ymhellach ar y berthynas honno, ond yn anad dim, i ddatblygu’r cyfeillgarwch rhwng ein dwy genedl.
Rwy'n falch iawn o glywed am y croeso llysgenhadol y byddwch yn ei roi yn ddiweddarach ym mis Mehefin, gan y credaf fod y cysylltiadau hyn yn hynod o bwysig i godi proffil Cymru, nid yn unig yn Japan ond ledled Asia a ledled y byd, fel y sonioch. Fe fyddwch yn ymwybodol fod coed ceirios yn cael eu plannu ledled Cymru ar hyn o bryd, fel rhan o’r fenter rhwng Japan a’r DU. Yn wir, rydym yn cael mwy o goed ceirios, yn ôl yr hyn a ddeallaf, nag unrhyw genedl arall yn y DU, o ran ein maint.
Un o'r pethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud yn hanesyddol i hyrwyddo cysylltiadau rhwng Cymru a gwahanol wledydd ledled y byd yw archwilio'r syniad o femoranda dealltwriaeth. Deallaf fod y cyntaf o'r rhain wedi’i arwyddo gyda Gweriniaeth Latfia flynyddoedd lawer yn ôl, ond ymddengys nad yw'r memoranda hynny'n cael llawer o sylw bellach. Tybed a yw hwn yn offeryn y gallech ei ddefnyddio a'i ddwyn i sylw Llywodraeth Japan fel ffordd ymlaen i hyrwyddo cysylltiadau rhwng Cymru a Japan ac edrych ar y meysydd penodol lle mae gennym berthynas dda, a gweithio ar y rheini lle gallem gael perthynas well byth yn y dyfodol. Felly, fe’ch cyfeiriaf at y memorandwm dealltwriaeth rhwng Latfia a Llywodraeth Cymru fel rhywbeth y gellid ei efelychu gyda llawer o wledydd eraill, gan gynnwys Japan, yn y dyfodol. Ac a wnewch chi hefyd roi gwahoddiad i'r Ymerawdwr newydd ymweld â Chymru ar y cyfle cyntaf?
Mawredd, bydd yn rhaid i ni osod y carped coch bryd hynny, oni fydd? Ond diolch yn fawr iawn. O ran memoranda dealltwriaeth, credaf fod gwahanol wledydd yn hoffi eu defnyddio mewn gwahanol ffyrdd. Mae rhai gwledydd yn hoff iawn ohonynt; nid yw eraill mor awyddus i’w defnyddio a byddai’n well ganddynt gynlluniau gweithredu. Felly, credaf fod yn rhaid i ni chwilio am yr hyn sy’n addas, a gweld beth sy'n gweithio orau ar gyfer ein dwy wlad, yn hytrach na rhedeg o gwmpas yn arwyddo memoranda dealltwriaeth. Os ydym am arwyddo memoranda dealltwriaeth, rwy'n awyddus iawn i sicrhau eu bod yn gyfrwng ar gyfer cyflawni yn hytrach na pherthynas gyfeillgar yn unig. Felly, un o'r pethau allweddol rwy’n awyddus iawn i'w gwneud yw canolbwyntio a chael mwy allan o bethau. Felly, nid wyf yn awyddus iawn i deithio’r byd yn arwyddo memoranda dealltwriaeth gyda phob gwlad yn y byd. Nid dyna'r ymagwedd y byddwn yn ei mabwysiadu yn y strategaeth ryngwladol.