Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 22 Mai 2019.
Dwi'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn atodol yna. Yn anffodus, medraf i wneud dim byd ynglŷn â hawliau cynllunio, ond, fel Aelod Cynulliad—yn hytrach na siarad fel Gweinidog am gwbl o frawddegau—dwi yn ymwybodol o'r pwysau sydd yna ynglŷn â chynllunio mewn parciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch neilltuol. Ond beth fedraf i ei wneud ydy cynnig, os bydd o ar gael, ein bod ni'n dau'n ymweld â'r busnes yma fel medraf i gael sgwrs bersonol gyda nhw, gweld beth yw eu hanghenion nhw, adrodd yn ôl, a gweld beth allwn ni ei wneud ymhellach.