Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 22 Mai 2019.
I ddatblygu ychydig ar y thema y mae'r Gweinidog eisoes wedi ymateb i Paul Davies yn ei chylch, mae pobl anabl a’u teuluoedd, wrth gwrs, yn farchnad allweddol, o bosibl, i dwristiaeth yng ngorllewin Cymru a ledled y wlad. Gan adeiladu ar y math o fusnes y mae Paul Davies newydd gyfeirio ato, pa gamau pellach y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod gennym y wybodaeth orau bosibl ar gael i bobl anabl a'u teuluoedd ynghylch pa gyfleusterau sydd ar gael yn ein cymunedau? Rwy'n meddwl yma am lety, ond rwyf hefyd yn meddwl am weithgareddau hamdden a fyddai'n addas. A oes camau, er enghraifft, y gallai'r Gweinidog eu cymryd, gan weithio gyda sefydliadau fel Anabledd Cymru, i sicrhau ein bod yn defnyddio eu rhwydweithiau, er mwyn sicrhau bod pobl anabl yn ymwybodol o'r cyfleoedd rhagorol sydd ar gael iddynt, ond hefyd i sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o'r farchnad honno, o gofio, yn sicr yng Nghymru, ein bod yn gwybod bod gan un o bob chwech o'n dinasyddion anabledd o ryw fath?