Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 22 Mai 2019.
Hoffwn droi yn awr at gysylltiadau masnach, sydd, wrth gwrs, yn hanfodol er mwyn sicrhau iechyd economaidd Cymru, yn enwedig o ran allforion. Nodais gyda diddordeb eich taith ddiweddar i'r Unol Daleithiau, lle buoch yn dadlau’r achos dros fewnfuddsoddi drwy werthu Cymru fel lle deniadol i wneud busnes. Roedd hwnnw’n gam calonogol. Ond tybed a yw polisi Brexit eich Llywodraeth yn tanseilio'ch strategaeth adeiladu cysylltiadau masnach yn llwyr. Ar hyn o bryd, mae gennym y berthynas fasnachu orau bosibl gyda'r UE, gan gynnwys cytundebau masnach â gwledydd trydydd parti. Onid yw aros yn yr UE, neu o leiaf yn y farchnad sengl, yn gwbl hanfodol er mwyn osgoi dadwneud popeth rydych yn ceisio'i gyflawni gyda masnach? Ac os felly, sut rydych chi'n cyfiawnhau polisi eich Llywodraeth o fod eisiau gadael y ddau ohonynt?