Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 22 Mai 2019.
A yw'r Dirprwy Weinidog—? A yw'n credu ei bod o fudd fod gorllewin Cymru wedi dod yn fwy cystadleuol o ran cost o gymharu â chyrchfannau tramor, gyda chyfradd gyfnewid is ers refferendwm yr UE, a pha gynigion sydd ganddo i fanteisio ymhellach ar y posibilrwydd, o leiaf, y gwelwn y fantais hon?