Twristiaeth yng Ngorllewin Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 22 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:23, 22 Mai 2019

Diolch yn fawr am y cwestiwn atodol yna. Pan fyddwn ni yn cyllido datblygiadau twristiaeth, rydyn ni, wrth gwrs, yn annog datblygiadau sydd yn creu cyfle cyfartal i'w defnyddio, ond, gan fod y cwestiwn penodol yna wedi'i ofyn â chyfeiriad yn arbennig at Anabledd Cymru, rydw i'n fodlon iawn i gwrdd ag Anabledd Cymru ac i drafod y mater o geisio hyrwyddo gwyliau yng Nghymru i bobl gydag anghenion teithio neu anghenion anabl o unrhyw fath, oherwydd mae mwynhau tirwedd Cymru ar gyfer gwyliau'n bwysig i bawb yng Nghymru a'r tu fas ac i bawb o bob cyrhaeddiad ac o bob gallu.