Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 22 Mai 2019.
Diolch am eich cwestiwn atodol. Yn wir, rwyf wedi ymuno â nifer o grwpiau cerdded yn ddiweddar. Credaf mai rhodwyr Treorci oedd y diwethaf. Wrth gwrs, mae'n cyfuno gweithgarwch corfforol mewn amgylchedd prydferth, naturiol—ac fel rhywun a gerddodd ar hyd gwastatir Gwent y dydd Sul o'r blaen, gwn pa mor bwysig yw'r amgylchedd yng Nghasnewydd. Felly, gan fentro gwahodd fy hun i bob man, rwy’n fwy na pharod i gyfarfod â Cerdded Casnewydd i drafod. Drwy ein rhaglen heneiddio'n iach gydag Age Cymru, rydym yn darparu rhaglen i gynyddu gweithgarwch corfforol, yn enwedig ymhlith pobl hŷn ledled Cymru, ac rydym yn edrych, yn y Llywodraeth, am ganllawiau newydd gan y prif swyddog meddygol ar weithgarwch corfforol, a fydd yn nodi pwysigrwydd annog mwy o’r boblogaeth i symud. Fel y dywedais o'r blaen yn y Siambr, nid yw oddeutu 30 y cant o boblogaeth Cymru yn gwneud unrhyw beth—unrhyw weithgarwch corfforol, hynny yw—a chredaf ei bod yn bwysig inni fod yn esiampl yn ogystal ag annog pobl.