Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 22 Mai 2019.
Weinidog, gobeithio y byddwch cystal ag ymuno â mi i longyfarch clwb pêl-droed Prifysgol Met Caerdydd, sy'n dathlu’r ffaith mai hwy yw’r brifysgol gyntaf i gyrraedd Cynghrair Europa UEFA ar ôl gêm ail gyfle gyffrous yn erbyn Y Bala ddydd Sul—rwy'n ymddiheuro—pan wnaethant ennill 3-1 ar giciau o’r smotyn. Golyga hyn y bydd Met Caerdydd yn mynd ymlaen i'r rowndiau rhagarweiniol, gan ymuno â chlybiau o Lwcsembwrg, San Marino, Ynysoedd Ffaro, Andorra, Kosovo, Gibraltar a Gogledd Iwerddon. Credaf mai'r pwynt pwysig yma yw bod hon yn gamp anhygoel i glwb prifysgol a bydd yn ysbrydoli llawer o'r myfyrwyr yn y brifysgol nad ydynt yn athletwyr elitaidd i gymryd rhan mewn chwaraeon egnïol. Felly, a wnewch chi longyfarch Met Caerdydd?