Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 22 Mai 2019.
Wel, fel yr Aelod Cynulliad dros y Bala—er nad wyf yn cefnogi’r Bala yn rheolaidd, ac eithrio ar adegau—mae’r Bala wedi cael eu moment yn Ewrop, fel Bangor ac eraill. Ond mae'n gyfle gwych i glwb Met Caerdydd, ac rwy'n eu llongyfarch yn ddiffuant. Rwy'n elwa o fyw yn agos atynt pan wyf yma yng Nghaerdydd, a chredaf ei bod yn bwysig inni bwysleisio sut y mae gweithgarwch gwyddor chwaraeon a'r ysbrydoliaeth sy'n deillio o astudio chwaraeon ar sail academaidd yn treiddio drwy holl ddiwylliant y brifysgol. Ceir rhywbeth pwysig, yn fy marn i, yn y cylch bywyd yma: y bydd disgyblion o oedran ysgol, yn aml iawn, yn egnïol iawn yn gorfforol, ond dim ond y rheini sy'n ymwneud â chlybiau sy'n tueddu i barhau â'u gweithgarwch yn ystod eu harddegau ac fel myfyrwyr. A chredaf ei bod yn bwysig ein bod yn dathlu diwylliant o lwyddiant mewn chwaraeon a diwylliant o glybiau llwyddiannus ym mhob rhan o’n system addysg bellach ac addysg uwch.