Ymgysylltiad Diwylliannol

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 22 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:47, 22 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Ar ôl i Lywodraeth Cymru gomisiynu astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer amgueddfa bêl-droed genedlaethol, dywedais yma ddwy flynedd yn ôl fod pobl gogledd Cymru yn haeddu cael amgueddfa bêl-droed genedlaethol ar garreg eu drws. Fel roeddwn wedi’i ddweud yma yn y Cynulliad blaenorol,

'Mae gan Wrecsam amgueddfa leol ardderchog... Ond un yn unig o saith safle Amgueddfa Genedlaethol Cymru lle y ceir mynediad am ddim y gall pobl yng ngogledd Cymru ymweld â hi o fewn cwmpas realistig o 60 milltir o bellter teithio, lle y gall pobl yng Nghaerdydd ac Abertawe ymweld â chwech o fewn y pellter hwnnw.'

Wrth gefnogi amgueddfa bêl-droed genedlaethol yn Wrecsam, cyfeiriais hefyd at hanes trawiadol Cae Ras Wrecsam,

'ble y chwaraewyd y gêm ryngwladol gyntaf yng Nghymru; lle y lleolir y cae rhyngwladol hynaf yn y byd; lle y ffurfiwyd Cymdeithas Bêl-droed Cymru; a chartref… un o glybiau pêl-droed hynaf y byd'

—CPD Wrecsam. Fe gyhoeddoch chi ddatganiad ysgrifenedig 12 diwrnod yn ôl ar flaenoriaethau ar gyfer y dyfodol mewn perthynas â'r astudiaethau dichonoldeb ar gyfer amgueddfa chwaraeon ac oriel gelf gyfoes, ac er bod clwb pêl-droed Wrecsam, sy'n eiddo i gefnogwyr, eisoes wedi galw am leoli amgueddfa bêl-droed genedlaethol yn y Cae Ras, dywedasoch fod adroddiad yr ymgynghorwyr wedi dod i’r casgliad,

'mai datblygu cyfleusterau newydd yn Amgueddfa Wrecsam fyddai'r dewis gorau ar gyfer arddangos treftadaeth bêl-droed Cymru’, a hefyd,

'[nad] cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yn unig fydd hyn, ac… mae trafodaethau wedi dechrau gyda'r partneriaid allweddol.'

Cyfeiriasoch hefyd at argymhelliad gan yr ymgynghorwyr y dylid gwneud hyn mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru. Felly, fe ofynnaf fy nghwestiwn—mae'n ddrwg gennyf am siarad am gymaint o amser—sut y bydd cyfraniad Amgueddfa Cymru, yn eich barn chi, yn gweithio? A ydych yn argymell bod hyn yn dod yn rhan o Amgueddfa Genedlaethol Cymru, neu a yw'n sefydliad partner hyd braich? A sut y bydd hyn yn effeithio ar y ddarpariaeth ffisegol yn amgueddfa Wrecsam—amgueddfa wych, ond yn eithaf bach o ran maint? Felly, a ydych yn ystyried adleoli neu ehangu, neu sut y gallech fynd i'r afael â hyn?