Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 22 Mai 2019.
Diolch, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol fod Imam Sis, dinesydd Cwrdaidd sydd bellach yn byw yng Nghymru, wedi bod ar streic newyn ers 157 diwrnod. Gwn eich bod yn ymwybodol ohono gan y gwn fod y gymuned yn gwerthfawrogi eich ymweliad preifat i siarad ag ef. Ond tybed pa gynnydd, os o gwbl, a wnaed o ran perswadio Llywodraeth Twrci i roi terfyn ar ynysu’r arweinydd Cwrdaidd Abdullah Öcalan, sef y rheswm pam fod Imam Sis yn agosáu at farw dros yr achos y mae’n teimlo cymaint o angerdd yn ei gylch. Gan nad yw hwn yn fater datganoledig—cyfrifoldeb Llywodraeth y DU a Senedd y DU yw materion tramor i raddau helaeth—a ydych wedi gallu canfod beth y mae'r AS lleol, Jessica Morden, wedi gallu ei wneud yn Senedd y DU, a beth oedd ymateb Jeremy Hunt i sefyllfa enbyd ein dinesydd, gan y gwn fod hyn yn achos cryn bryder ymhlith fy etholwyr a llawer o bobl eraill?