Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 22 Mai 2019.
Rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Gweinidog Addysg lle rydym yn trafod materion sy'n ymwneud ag addysg cyfrwng Cymraeg. Mae sicrhau darpariaeth cyrsiau cyfrwng Cymraeg mewn prifysgolion yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru, ac wrth gwrs, mae rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn hanfodol i sicrhau'r nod hwn.