Cysylltiadau Llywodraeth Cymru â Thwrci

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 22 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:59, 22 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Wel, soniais i gychwyn am y ffaith ein bod yn canolbwyntio ar addysg, masnach a chysylltiadau diwylliannol â Thwrci. Yn wir, Twrci yw'r wlad lle rydym yn anfon—. Dyma'r farchnad allforio fwyaf ond deg i ni, felly nid yw'n genedl ansylweddol yn yr ystyr hwnnw. Wrth gwrs, rydym yn awyddus i sicrhau ein bod yn parhau â'n deialog â chymdeithas sifil, a golygai’r ymweliad gan lysgennad Twrci ei fod wedi gallu mynd i siarad â rhai cwmnïau o Dwrci sydd wedi'u lleoli yma ac sydd wedi buddsoddi yma yng Nghymru.