Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 22 Mai 2019.
Mae myfyrwyr rhwng tair a 18 oed yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Maent yn dysgu'r holl eiriau technegol drwy gyfrwng y Gymraeg, ac felly nid ydynt yn gwybod y geiriau technegol yn Saesneg. Nid ydynt yn methu siarad Saesneg, ond mae'r geiriau technegol yn eiriau sy'n benodol i'r pynciau—dim ond y fersiynau Cymraeg y maent yn ei wybod. A wnewch chi weithio gyda'r Gweinidog addysg a phrifysgolion Cymru i gynhyrchu map i gynyddu nifer y pynciau sydd ar gael mewn prifysgolion yng Nghymru drwy gyfrwng y Gymraeg, yn enwedig y pynciau poblogaidd iawn hynny y mae pob prifysgol yn eu cynnig?