Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 22 Mai 2019.
Ie, mewn cwestiynau yn y gorffennol, rwy'n siŵr ein bod wedi nodi bod y Comisiwn o ddifrif ynghylch y materion hyn. Yn amlwg, gyda darpariaeth parcio ar gyfer beiciau ac ati, mae hwnnw’n un o'r pethau y buom yn edrych arnynt ac wrth gwrs, unwaith eto, rydym yn edrych ar osod pwyntiau gwefru trydanol; cyn gynted ag y bydd y lleoedd ar gael, byddwn yn manteisio ar hynny hefyd. Felly, mae'r Comisiwn wedi ymrwymo'n gadarn i leihau ôl-troed carbon y Cynulliad hwn yn gyffredinol.